S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Hufen Iâ Brenhinllys a Saws Mafon

Cynhwysion

  • 2 fwnsiad mawr o frenhinllys ffres (dail yn unig)
  • 1kg o siwgr mân
  • 600g o gaws mascarpone
  • 2.5 litr o iogwrt naturiol

Dull

Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o frenhinllys – ond mae brenhinllys lemwn yn gweithio'n arbennig o dda.

Cyfunwch y dail brenhinllys a'r siwgwr mewn prosesydd bwyd, ac yna eu cymysgu gyda'r caws a'r iogwrt mewn powlen. Yna rhowch y gymysgedd yn y rhewgell am ddwy awr, gan gofio ei droi gyda fforc bob 20 munud. Os oes gennych beiriant hufen ia – rhwch y gymysgedd yn hwnnw i gorddi am tua 20 munud.

Ar gyfer y saws mafon...

Golchwch y mafon a'u rhoi mewn sosban gyda mymryn o ddwr a digon o siwgr i orchuddio'r ffrwyth. Efo'r sosban ar wres isel, gadewch i'r siwgr doddi i gyd, a gadewch i'r gymysgedd fud-ferwi am ychydig funudau. Yna, sdwnshwch a mwynhewch!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?