S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tocio Coed

Tocio i leihau maint coeden

Pethau i ystyried cyn tocio

  • Oes 'na orchymyn cadwraethol ar y goeden? Peidwch a thocio'r goeden – mwy o wybodaeth fan hyn.
  • Ydi'r brigau yn fwy na 15cm o ddiamedr, ac angen llif cadwyn? Peidiwch a thocio'r goeden, cysylltwch â meddyg coed. Cliciwch yma am un trwyddedig yn eich ardal.

Offer

  • Menyg
  • Sbectol Ddiogelwch
  • Secateurs
  • Secateurs tro clicied (ratchet)
  • Torrwr engan (anvil lopper) braich hir
  • Tociwr telescopig (i'r canghennau uchaf un)
  • Llif docio (gyda gwain)
Torri Coed

Sut i docio

  1. Gwisgwch fenyg a sbectol ddiogelwch.
  2. Tociwch y brigau marw neu frigau sydd wedi eu difrodi gyda secateurs.
  3. Gyda llif docio bwrpasol neu secateurs tro clicied (ratchet) tociwch y brigau ynghanol y goeden sy'n tyfu yn syth ar i fyny, ac sy'n dwyn y golau o ganol y goeden.
  4. I dorri'n ddiogel, ac i atal niwed parhaol i'r goeden, torrwch unrhyw frigau mawr i tua 30cm o foncyff y goeden yn gyntaf. Wedyn, torrwch y bonyn sydd ar ôl hyd at goler y gangen (y chwyddiad bach lle mae'r gangen yn ymuno â'r gefnffordd). Gwnewch doriad bach ar waelod y bonyn am i fyny yn gyntaf, yna torrwch am i lawr ag ar ongl i ffwrdd o'r boncyff.
  5. Tociwch y brigau allanol i leihau maint y goeden – bydd angen siswrn tocio estynedig i wneud y brigau uchaf.
  6. Dylid byth a thocio mwy na 1/3 o faint gwreiddiol y goeden, rhag creu niwed parhaol iddi.
  7. Er mwyn rhoi cymorth i'r goeden ddod nôl at ei hun, rhowch dail neu gompost o gwmpas gwaelod y boncyff.

Pryd i docio

Coed collddail: yr hydref neu'r gaeaf – pan mae'r goeden yn segur

Coed bythwyrdd: canol i ddiwedd yr haf. Ond mae eithriadau. Dyma wybodaeth fanylach.

Iechyd a Diogelwch

COFIWCH! Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin!

Ydych wedi ystyried os yw'r goeden yn rhy fawr i chi ei thocio'n ddiogel eich hun?

Os yw'r gangen fwyaf trwchus sydd angen ei thorri gyda diamedr o fwy na thua 15cm, byddwn yn eich cynghori i gysylltu gyda meddyg coed trwyddedig.

Os allwch chi ddim cyrraedd unrhyw gangen tra bod eich traed yn gadarn ar y llawr, neu ar blatfform pwrpasol, byddwn yn eich cynghori i gyflogi meddyg coed proffesiynol.

Os ydych yn penderfynu mynd ati i docio eich coeden eich hun, mae'n bwysig cael yr offer diogelwch cywir.

- Os am gyflogi meddyg coed proffesiynol, rhaid gwneud yn siŵr eu bod yn gymwys a chyda'r drwydded gywir.

- Gallwch fynd ar wefan yr Arboricultural Association er mwyn gwneud yn siŵr fod y contractwyr yr ydych yn ystyried eu cyflogi wedi cofrestru gyda'r ARB.

- Dyma'r logo y dylid edrych allan amdano os am gyflogi meddyg coed trwyddedig.

ARB
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?