S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gwasanaethau Mynediad

Arwyddo

Iaith weledol yw iaith arwyddion (BSL), gyda chystrawen unigryw, a gramadeg a geirfa ei hun. Mae arwyddo ar y sgrîn yn gyfieithiad o ddeialog rhaglen i iaith arwyddo Prydain.

Cyfieithydd sy'n gyfrifol am y gwaith yma, a chaiff delwedd y person hynny ei osod ar y rhaglen.

Paratoir y gwasanaeth ar gyfer gwylwyr byddar sydd ar y cyfan yn byw yng Nghymru, neu sy'n medru derbyn S4C trwy lwyfan Sky y tu allan i Gymru.

Fel gwyliwr, nid oes angen i chi wneud unrhywbeth yn wahanol gan fod yr arwyddo ar gael i'n holl wylwyr.

Mae rhaglenni wedi'u harwyddo fel arfer i'w gweld ar y penwythnos neu amser cinio yn ystod yr wythnos neu fe ellir eu gwylio arlein.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141, neu anfonwch ebost

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?