S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cacennau Bach Fanila

Mor ddel a ciwt... rhain yw'r cacennau bach prydferthaf, ond a fydd rhai Ows a Leah yn lliwgar neu'n llanast?

CACENNAU BACH FANILA

Cynhwysion (cytew cacen):

125g blawd hunan-godi

125g siwgr caster

1/4 llwy de bicarbonad o soda

125g menyn meddal, heb halen (meddal iawn!)

2 ŵy mawr

1 1/2 llwy fwrdd o laeth

1/4 llwy de o ddyfyniad (essence) fanila

Dull:

1. Cynheswch y popty i 170 °C a leiniwch hambwrdd cwpanau / myffin gyda 12 cas cacennau bach (cupcake cases)

2. Mewn rhidyll dros y bowlen gymysgu - ychwanegwch y blawd, y siwgr mân a'r bicarbonad o soda a'u didoli.

3. Ychwanegwch 125g o fenyn.

4. Ychwanegwch 2 ŵy mawr.

5. Dechreuwch y cymysgydd ar gyflymder isel nes bod popeth wedi'i gymysgu ac yna cynyddwch y cyflymder am 1 munud.

6. Trowch y cymysgydd nôl i gyflymder isel ac ychwanegwch y llaeth a'r fanila.

7. Rowch y cymysgydd yn ôl ar gyflymder canolig - uchel (am tua 30 eiliad).

8. Stopiwch y cymysgydd, tynnwch y padl a chael cymaint o gytew i ffwrdd ac y gallwch. Crafwch yr ochrau â sbatwla a chymysgwch y cytew am y tro olaf gyda'r sbatwla er mwyn gwneud yn siwr fod yr holl gynhwysion wedi dod at ei gilydd.

9. Gan ddefnyddio llwy bwdin a llwy de, rhowch y cytew yn y casys cacennau bach un ar y tro

10. Pobwch am 22 munud yn y popty. Gwiriwch gyda sgiwer - dylai ddod allan yn lân.

11. Gadewch yr hambwrdd am 5-10 munud ac yna trosglwyddwch ef i rac oeri.

Cynhwysion (Eisin / Frosting)

• 1 cwpan (230g) menyn heb halen, (menyn ar dymheredd ystafell)

• 4 cwpan (480-600g) o siwgr melys (icing sugar)

1/4 cwpan (60ml) hufen

• 2 lwy de dyfyniad (extract) fanila pur

• halen, i flasu

DULL

  1. Gan ddefnyddio'r cymysgydd a'r atodiad padlo, curwch y menyn ar gyflymder canolig nes ei fod yn hufennog (tua 2 funud).
  2. Ychwanegwch 4 cwpan o siwgr eisin, yr hufen, a'r fanila. Curwch ar gyflymder isel am 30 eiliad, yna cynyddwch i gyflymder canolig-uchel a churo am 2 funud . Ychwanegwch mwy o siwgr eisin os yw'r eisin rhy denau neu lwy fwrdd arall o hufen os yw'r gymysgedd rhy drwchus.
  3. Defnyddiwch ar unwaith i addurno'r cacennau.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?