S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cwcis Siocled

Clasur o fisged... ond pwy fydd yn gwneud yr un gorau?

CWCIS SIOCLED

CYNHWYSION

120g Nutella

190g menyn caled

135g siwgr mân

135g siwgr brown golau

100g darnau siocled gwyn

100g darnau siocled llaeth

100g bisgedi siocled

420g blawd plaen

10g powdwr pobi

1 tsp halen

2 ŵy

DULL

1. Rhowch lwyaid o Nutella ar hambwrdd (tray) coginio fel bod 12 blob ar yr hambwrdd. Rhowch yn y rhewgell am o leiaf 30 munud.

2. Cymyswch y menyn oer (*pwysig - nid ar dymheredd ystafell) gyda'r siwgr mân + siwgr brown. Bydd hwn yn lympiog ac mae hynny'n iawn.

3. Ychwanegwch y darnau siocled.

4. Ychwanegwch y bisgedi wedi eu malu. Cymysgwch nes ei fod yn edrych fel tywod gwlyb. Dylai'r toes fod fel playdough.

5. Ychwanegwch y blawd, powdr pobi a'r halen.

6. Curwch y ddau ŵy ac yna ychwanegu i'r gymysgedd.

7. Ffurfiwch y toes mewn i 12 pelen , pwyswch bob pelen i 100g

8. Estynnwch yr hambwrdd Nutella o'r rhewgell, ac un ar y tro, gwnewch dwll / pant mewn pob pelen o does gyda llwy de.

9. Yna, rhowch un belen o Nutella sydd wedi rhewi yng nghanol pob toes, gorchuddiwch y siocled gyda'r toes.

10. Rhowch y 12 pelen ar hambwrdd a'i rhewi yn y rhewgell am 1 awr.

11. Cynheswch y ffwrn i 180C. Rhowch pedair pelen ar hambwrdd, dim mwy na hynny achos mae nhw'n gwasgaru. Pobwch am 15 munud.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?