S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Tartenni Siocled Rwdolff

TARTENNI SIOCLED RWDOLFF

CYNHWYSION AR GYFER 12 TARTEN.

AR GYFER Y BISGEDI:

  • 225g o flawd plaen.
  • 1 llwy de o soda pobi
  • ½ llwy de o enllyn fanila
  • 150g o goconyt sych mân.
  • ½ llwy de hufen tartar
  • 2 llwy fwrdd o surop euraidd
  • 1 llwy fwrdd o laeth.
  • ¼llwy de o halen.
  • 2 lwy fwrdd o fenyn
  • 1 150g siwgr mân
  • 1 ŵy mawr.

AR GYFER Y LLENWAD:

  • 75ml o hufen dwbl.
  • 65g o fenyn.
  • 200g siocled tywyll.

AR GYFER YR ADDURNIADAU:

24 Pretsel

12 Smarties coch neu lolipop coch

6 Malws Melys Gwyn mawr.

  • 24 Malws Melyn Gwyn bach

3 Llwy Fwrdd o Buttercream parod.

  • Eising siocled parod.

FYDD HEFYD ANGEN

Tin Pobi Byns 12 cwpan.

DULL

Cam 1

  • Cynheswch y popty i 180 gradd selsiws
  • Gwnewch y bisgedi drwy rhoi y cynhwysion i gyd mewn powlen a cymysgu tan iddynt greu toes.
  • Roliwch y toes i fewn i peli bach a'i gosod ar tin pobi.
  • Pobwch yn y ffwrn am 8-10 munud ac yna gadewch i oeri am ychydig

Cam 2

  • Tra fod y bisgedi dal yn gynnes, siapiwch i fewn i tin bun fel fod y bisgedi nawr mewn siap cwpannau. Dylse fod 12 gyda chi i gyd.Gadewch i oeri yn y tin.

Cam 3

  • Gwnewch y llenwad drwy cynhesu y menyn, hufen a siocled mewn sospan.Trowch y gymysgedd am oddeutu 7 munud dros tymherdd isel nes fod y gymysgedd wedi toddi ac yn llyfn.Arllwyswch y gymysgedd i fewn i powlen lân a rhowch yn yr oergell am 20 munud tan ei fod wedi oeri ond ddim wedi setio.

Cam 4

  • Gyda llwy llenwch pob cwpan bisged gyda'r gymysgedd ac rhowch yn yr oergell eto i setio.

Cam 5

  • ADDURNO!Pan fod y gymysgedd wedi setio dewch a'r tin allan o'r oergell a nawr mae'n amser creu'r ceirw!
  • Defnyddiwch yr eisin parod fel glud tra yn gosod yr addurniadau yn eu lle.
  • Gan ddefnyddio siswrn, yn ofalus, torrwch 6 malws melys gwyn mewn hanner a gosodwch ar y tartenni.Rhain fydd dechre y trwynnau coch!
  • Gosodwch losin neu lolipop coch ar y malws melys gwyn, dyma ni trwyn rwdolff.
  • Gan ddefnyddio pretsils, rhowch un ar bob ochor y tartenni fel antlers.
  • Gorffenwch drwy osod dau malws melys bach uwchben y trwyn a gan ddefnyddio eisin siocled rhowch smotyn ar ben bob malws melys fach fel eu bod yn edrych fel llygaid rwdolff.

Mwynhewch!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?