S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

​Pastai Nadolig

Pastai Nadolig

AR GYFER Y TOES:

  • 100g o fenyn oer
  • 225g o flawd plaen
  • Pinsiad o halen
  • 4 llwy fwrdd o ddŵr

AR GYFER Y LLENWAD:

8 selsigen twrci

3 llwy fwrdd o saws llugaeron

1 llwy fwrdd o bersli ffres wedi dorri yn fân

Halen a phupur

1 ŵy wedi ei guro

1 llwy fwrdd o laeth

DULL

Cam 1

  • Rhowch y blawd a'r menyn mewn powlen a gan ddefnyddio eich dwylo rhwbiwch y cynhwysion at ei gilydd nes fod y gymysgfa yn edrych yn debyg i friwsion bara!
  • Ychwanegwch pinsiad o halen at y gymysgedd ynghyd a'r dwr a chymysgwch gyda'ch dwylo nes ei fod yn dod at ei gilydd i ffurfio toes. Ychwanegwch mwy o ddŵr os yw'r gymysgedd yn sych, ychydig ar y tro.
  • Lapiwch y toes mewn gorchudd ffilm neu bapur pobi a'i roi yn yr oergell am hanner awr.

Cam 2

  • Yn ofalus torwch y selsig twrci i lawr un ochor a rhowch y cig mewn powlen a chael gwared o groen y sesig. Gofynnwch am help rhiant neu oedolyn ar gyfer y cam yma.
  • Cymysgwch y cig selsig twrci at ei gilydd ac yna rhoi mewn padell ffrio i goginio'r cig.
  • Pan fydd y cig wedi'i coginio ychwanegwch 3 lwy fwrdd o saws llugaeron.
  • Torrwch y persli ffres a'i gymygu gyda'r cig ynghyd a bach o halen a phupur. Dyma eich llenwad.

Cam 3

  • Tra bod y llenwad yn oeri cymerwch y toes o'r oergell a'i rolio gan ddefnyddio rholbren. Defnyddiwch ychydig o flawd i sicrhau nad ydi'r toes yn glynu i'r bwrdd.
  • Gan ddefnyddio powlen neu gwpan, rhowch ar y toes a defnyddio cyllell i dorri o'i amgylch i greu siap cylch. Gofynnwch am help rhiant neu oedolyn ar gyfer y cam yma.
  • Gan ddefnyddio llwy, rhowch ychydig o'r llenwad ar un hanner o'r cylch.
  • Chwipiwch yr ŵy a'r llaeth gyda'i gilydd a lledaenwch o amgylch ochrau'r toes.
  • Lapiwch yr hanner gwag dros y llenwad i ffurfio hanner cylch.
  • Yn defnyddio fforcen neu eich bys, crimpiwch y toes o amgylch yr ochrau fel bod yn llenwad wedi gau o fewn y toes. Dyma chi eich pastai.

Cam 4

  • Llyfnwch yr ŵy ar ben y pastai fel ei bod wedi'i gorchuddio.
  • Rhowch y pastai ar hambwrdd pobi a rhowch yn y popty ar 180c am 45 munud.
  • Mwynhewch!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?