S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Tŷ Bara Sinsir

Campwaith Nadolig prydferth a blasus - pob lwc!

Tŷ Bara-Sinsir

AR GYFER Y TY BARA-SINSIR:

  • 1 pecyn tŷ sinsir parod wedi'i brynu o'r siop
  • 1 Tiwb o glud pobi.

AR GYFER YR EISIN:

  • 300g Siwgr Eisin
  • 2 lwy fwrdd o laeth
  • 1 llwy de o enllyn fanila
  • Ychydig o Ddŵr, os oes angen llacio'r gymysgedd.

ADDURNIADAU:

  • Losin a siocledi o'ch dewis chi.

DULL

Cam 1

  • Yn ofalus adeiladwch eich tŷ sinsir gan ddefnyddio'r glud i osod y waliau a'r to at ei gilydd.Tip – Defnyddiwch bowlen neu gwpan o fewn waliau'r tŷ i bwyso'r darnau fel eu bod yn sefyll wrth sychu.

Cam 2

  • Sifiwch y siwgr eisin i mewn i bowlen ac ychwanegwch y llaeth a'r fanila a'i gymysgu i greu eisin.Os ydy'r gymysgedd yn drwchus defnyddiwch ychydig bach o ddŵr i lacio'r gymysgedd.Llenwch fag eisin gyda'r gymysgedd ac yna defnyddiwch i orchuddio'r tŷ neu ddefnyddio i ludo losin ar y to.Tip – I ail lenwi'r bag eisin defnyddiwch gwpan i orffwys y bag tra'n ail lenwi.Cam 3
  • Byddwch yn greadigol wrth orchuddio'r tŷ gyda'r addurniadau. Mwynhewch a Nadolig Llawen!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?