S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Dyfeisiau symudol

Android

Mae S4C Clic yn gweithio ar bob dyfais Android sydd ag Android 4.4 neu diweddarach.

Os mae eich dyfais Android yn rhedeg system weithredu gynharach, mae'n bosibl y byddwch yn medru parhau i wylio, ond ni fyddwch yn derbyn unrhyw ddiweddariadau megis nodweddion newydd ac atgyweiriadau nam.

Os mae eich dyfais yn cefnogi fersiynau meddalwedd Android diweddarach, rydym yn argymell eich bod yn ei ddiweddaru i 4.4 neu hwyrach.

Mae S4C Clic ar gael ar eich ffôn Android neu dabled drwy greu cyfrif S4C Clic neu arwyddo i mewn i s4c.cymru/clic/

Apple iOS

Mae S4C Clic yn gweithio ar bob dyfais Apple sydd ag iOS 10 neu diweddarach.

Os mae eich dyfais Apple yn rhedeg system weithredu gynharach, mae'n bosibl y byddwch yn medru parhau i wylio, ond ni fyddwch yn derbyn unrhyw ddiweddariadau megis nodweddion newydd ac atgyweiriadau nam.

Os mae eich dyfais yn cefnogi fersiynau iOS diweddarach, rydym yn argymell eich bod yn ei ddiweddaru iOS 10 neu hwyrach.

Mae S4C Clic ar gael ar eich ffôn Apple iOS neu dabled drwy greu cyfrif S4C Clic neu arwyddo i mewn i s4c.cymru/clic/

Cofiwch: Gallwch ddefnyddio AirPlay i ffrydio neu adlewyrchu S4C Clic oddi wrth unrhyw ddyfais iOS.

Windows

Nid oes gan S4C ap ar dabled Windows ar hyn o bryd, ond mae S4C Clic ar gael ar eich tabled Windows drwy greu cyfrif S4C Clic neu arwyddo i mewn i s4c.cymru/clic/.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?