Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i'w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Yn S4C Mae S4C yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol ar gyfer cyfnod mamolaeth 12 mis.
Mae'r adran Adnoddau Dynol yn dîm bach sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gweithgareddau pobl S4C yn cael ei ddarparu mor gefnogol, effeithlon a chywir â phosibl.
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol sydd a'r gallu i ddarparu gwasanaeth cyffredinol Adnoddau Dynol i S4C. Byddwch yn gyfrifol am, ond heb fod yn gyfyngedig i reoli a chynnal system AD (Ciphr), cytundebau, polisïau, absenoldeb, recriwtio, datblygu a hyfforddiant, gweinyddu'r gyflogres, rheoli data a phob agwedd ar weinyddu sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae'r rôl yn atebol i'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Cysylltwch â adnoddau.dynol@s4c.cymru os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.
Cyflog: £24,000 - £29,500
Cytundeb: 12 mis - Cyfnod Mamolaeth
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i adnoddau.dynol@S4C.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 1 Medi 2022.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.