Mae cangen fasnachol S4C, S4C Masnachol, yn lansio Cronfa Twf: cronfa fuddsoddi i fuddsoddi mewn busnesau sy'n agos at ac yn cyd-fynd â chylch gorchwyl S4C, sydd â photensial ar gyfer twf ac i sicrhau enillion strategol ac ariannol. Mae S4C yn chwilio am Bennaeth y Gronfa Twf i arwain y gweithgaredd ynghylch Cronfa Twf S4C, gan oruchwylio buddsoddiad mewn cwmnïau sy'n cyd-fynd ag amcanion strategol y Gronfa ac i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau y buddsoddwyd ynddyn nhw i'w cefnogi i gyflawni twf llwyddiannus.
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys goruchwylio Cronfa Twf S4C Masnachol gydag atebolrwydd am ei pherfformiad, hyrwyddo gwaith y gronfa, gyda ffocws penodol ar greu rhwydweithiau cryf ar draws yr economi greadigol yng Nghymru a gweithio gyda darpar fusnesau i'w buddsoddi ynddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol gydag S4C Masnachol yn ystod y broses fuddsoddi a'u bod yn barod ar gyfer buddsoddiad.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.
Gallwn rannu manylion o'r gronfa gyda darpar ymgeiswyr, ond mi fydd disgwyl i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd i allu derbyn rhain. Plîs cysylltwch ag adnoddau.dynol@s4c.cymru.
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: Cyflog a bonws yn unol â phrofiad
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 19 Mehefin 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.