S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Cynorthwyydd Adran Marchnata a Chyfathrebu

Mae S4C yn chwilio am Gynorthwyydd Adran Marchnata a Chyfathrebu bydd yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau gweinyddol yr Adran gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf, cefnogi'r Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu a chefnogi gwaith yr adran lle bynnag y bo'n briodol.

Bydd y gwaith yn cynnwys cydlynu a chynllunio ar draws yr adran gan weithredu disgresiwn wrth ddelio gyda materion cyfrinachol a sensitif.

Mae'r Adran Farchnata a Chyfathrebu yn adran greadigol sy'n codi ymwybyddiaeth o S4C a'r oll mae'n ei gynnig, gan ddenu cynulleidfaoedd Cymru ar deledu llinol neu ar blatfformau digidol. Drwy amryw weithgareddau marchnata a chyfathrebu mae'r timau yn amlygu sut mae S4C yn darparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy'n dathlu'n diwylliant cyfoes Cymru.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg i safon dda yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Manylion Swydd

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: Cystadleuol

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 11 Rhagfyr 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?