S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb
Rhan 3 - Gwaith Addasu Bloc Technegol S4C

S4C yw'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n darparu rhaglenni yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru ac ar draws y D.U. Darlledir y rhaglenni o'n pencadlys yn Llanisien, Caerdydd.

Rydym yn bwriadu gwneud addasiadau i'n bloc technegol yn Llanisien. Mae Rhannau 1 a 2 o'r gwaith eisoes wedi eu cwblhau, ac nawr fe hoffem wahodd tendrau ar gyfer Rhan 3 sy'n cynnwys y gwaith paralel o addasu'r adeilad a diweddaru offer mecanyddol a thrydanol. Mae'r gwaith adeiladu yn cynnwys elfennau mewnol (waliau, lloriau, nenfydau) a'r gwaith mecanyddol a thrydanol yn cynnwys addasiadau i systemau presennol ynghyd a gosod systemau oeri a goleuo newydd.

Bydd tendrau ar wahân yn cael eu gwahodd ar gyfer y ddau fath o waith. Gall ymgeiswyr gynnig am un neu'r ddau gytundeb.

Amcangyfrifir y bydd gwerth y gwaith adeiladu oddeutu £120k, gyda'r gwaith HVAC a thrydanol oddeutu £180k.

Rhaid i gwmnïau sydd am ymgeisio gwblhau holiadur cyn-gymhwyso ar gyfer un (neu'r ddau) gytundeb erbyn 5pm ar y 15fed Hydref 2010. Bydd cyfarwyddiadau ar gyfer ymgeisio a manylion o'r methodoleg gwerthuso ar gael o fewn yr holiaduron. Rhaid i unrhyw geisiadau am fwy o wybodaeth neu arweiniad pellach ar sut i lenwi'r holiaduron gael eu cyflwyno erbyn 5pm ar y 11eg o Hydref 2010.

Fe estynnir gwahoddiad i dendro i'r ymgeiswyr hynny fydd yn cyrraedd y rhestr fer. Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwahodd oddeutu 5 cwmni i'r rhestr fer ar gyfer pob cytundeb. Bydd y cytundeb(au) yn cael eu dyfarnu ar sail yr ymateb i dendr a fernir y mwyaf manteisiol yn economaidd trwy ddefnyddio'r meini prawf a osodwyd yn y gwahoddiad i dendro.

Llawrlwytho'r holiadur

Cwestiwn 1

Nid oes gennym achrediad ISo9000 neu gyfwerth. Mae gennym achrediadau gyda:

  • CHAS
  • SAFECONTRACTOR
  • CONSTRUCTIOLINE

Fedrwch chi gadarnhau os yw hyn yn dderbyniol neu beidio? h.y. a fyddwn yn cael ein gwrthod?

Ateb 1

Ni fyddwch yn cael eich gwrthod am beidio cael achrediad ISO 9000. Fe ddyfernir fod y cyfeiriad at hyn yn yr HCG yn ddymunol ond nid yn angenrheidiol. Bydd system rheoli safonau sy'n darparu modd addas o sicrhau safon gwasanaeth derbyniol a chyson yn foddhaol. Disgrifiwch eich system mewn manylder rhesymol, wedi ei gyfyngu i ddim mwy nag un ochr A4.

Cwestiwn 2

O gymryd fod y gwaith yn gydamserol dim ond un Prif Gontractwr gall fod. Prif waith ein safle rheoli yw cydlynu'r 'M&E' (2 o isgontractwyr o bosib) gyda phrosesau adailadu eraill. Ydych chi'n bwriadu enwebu isgontractwr M&E i'r prif Gontractwr. Os nad ydych, sut ydych chi'n bwriadu rheoli'r broses adeiladu?

Ateb 2

Gall y ddau dendr yma gael eu rhoi i un cynnig neu ddau. Yn yr achos cyntaf, nid oes problem. Yn yr ail, rydym yn rhagweld mai'r contractwr adeiladu fyddai'r prif gontractwr. Ond, gan nad ydym yn gwybod pwy fydd yr ymgeisydd llwyddiannus, rhaid inni gadw ein opsiynau yn agored.

Cwestiwn 3

Rydych wedi gofyn am i'r holiadur cyn gymhwyso gael ei sganio. Byddai hyn yn cymryd llawer o amser. A fyddai'n bosib i ni sganio ac anfon y dudalen llofnod ymlaen atoch gyda'r ddogfen gyflawn ac unrhyw amgaeadau eraill wedi eu atodi fel dogfennau Word, os gwelwch yn dda?

Ateb 3

Ydy, mae hyn yn dderbyniol, ond gwnewch yn siwr eich bod yn nodi'n glir sawl e-bost ac atodiad sydd yn rhan o'ch cais gorffenedig.

Cwestiwn 4

Ydych chi eisiau copi o'r CHAS, archediad adeiladu ayyb, neu a ydyw'n dderbyniol i nodi bod rhain ar gael?

Ateb 4

Bydd dim angen copïau ohonynt ar hyn o bryd. Bydd gofyn amdanynt ar ôl pennu'r rhestr fer ac yng nghyfnod y gwahoddiad i dendr.

Cwestiwn 5

Mae cwestiwn 6c er enghraifft yn gofyn am llawer o wybodaeth. Ydych chi eisiau teipio hwn fel rhan o'r holiadur neu fel atodiad ar wahân?

Ateb 5

Os ydych am gynnwys mwy o wybodaeth gallwch ehangu maint yr holiadur cyn gymhwyso a theipio'r manylion i fewn.

Cwestiwn 6

Mae'r ffurflen gais yn egluro fod yna ddau gytundeb, un ar gyfer M&E a'r llall ar gyfer gwaith yn ymwneud â'r adeiladwaith. I ba gategori mae'r rhaniadau a nenfydau crog a'r gorffeniadau mewnol yn perthyn?

Ateb 6

Cytundeb i addasu'r adeilad.

Cwestiwn 7

Ydych chi wedi llunio'r cynllun?

Ateb 7

Ydyn ac mi fyddwn wedi gorffen cynlluniau M&E ac adeiladu i'w dosbarthu i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer. Fodd bynnag, bydd yr elfen M&E yn cael ei gynnig fel cytundeb cynllunio ac adeiladu er mwyn sicrhau cysylltiad gyda'r darparwr M&E. Mae hyn yn bennaf er mwyn sicrhau prynu mewn i sicrhau gwaith gosod llwyddiannus.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?