S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaeth Cefnogaeth Cyfreithiol, Polisi a Chydymffurfiaeth ar gyfer Cynnwys S4C

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaeth cefnogaeth cyfreithiol, polisi a chydymffurfiaeth ar gyfer cynnwys S4C. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau ymateb yn llawn i'r Gwahoddiad i Dendr a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Tendr i S4C yw canol dydd, dydd Iau 3ydd o Fedi 2015.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr hwn a/neu'r broses dendro hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr yw canol dydd, dydd Gwener 21ain o Awst 2015.

Cwestiwn 1

Ydy'r cyfyngiad tudalennau a nodir yn y gwahoddiad i dendro yn cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig o gefnogaeth oddi wrth gwmnïau cynhyrchu annibynnol neu a oes modd i ni ddarparu'r fath dystiolaeth fel atodiad i'r brif ddogfen ymateb?

Ateb 1

Na, nid yw'r cyfyngiad tudalennau a nodir yn y gwahoddiad i dendro yn cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig o gefnogaeth oddi wrth gwmnïau cynhyrchu. Gellid cynnwys y fath dystiolaeth mewn atodiad.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?