S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Cyfieithu

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cyfieithu. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau cais yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r cais i S4C yw canol dydd, dydd Mawrth 7fed o Orffennaf 2015.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais hwn a/neu'r broses dendro hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, dydd Gwener 26ain o Fehefin 2015.

Cytundebau Fframwaith Cyfieithu

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?