S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Data Gwylio a Gwerthfawrogiad y Gynulleidfa

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau darparu data gwylio a gwerthfawrogiad y gynulleidfa mewn perthynas â rhaglenni S4C. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk ac yn yr "Official Journal of the European Union". Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Holiadur Cyn-Gymhwyso yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Holiadur Cyn-Gymhwyso i S4C yw canol dydd, dydd Llun 9fed o Chwefror 2015.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur hwn a/neu'r broses dendro hon at: tendr@s4c.co.uk Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur yw canol dydd, dydd Llun 26ain o Ionawr 2015.

Holiadur Cyn-Gymhwyso

Cwestiwn 1

Adran 3, rhan b) – Oes cyfyngiad ar y nifer o esiamplau o gytundebau perthnasol yr hoffech gael gwybod amdanynt, neu a ddylem gynnwys manylion unrhyw gytundeb y teimlwn sy'n berthnasol (yn y 5 mlynedd diwethaf)?

Ateb 1

Nid oes cyfyngiad. Gofynnir i chi gynnwys unrhyw esiamplau dros y 5 mlynedd diwethaf y credwch eu bod yn berthnasol.

Cwestiwn 2

Gallwch chi ddarparu, os gwelwch yn dda, mwy o wybodaeth am gyfansoddiad y panel:

Cynrychioli Cymru gyfan, neu gynrychioli Cymru ond gydag elfennau o ddiddordeb arbennig (e.e. gwylwyr rheolaidd S4C?)

O ran aelodau'r panel sy'n siarad Cymraeg, beth yw'r diffiniad? H.Y. ydyn nhw'n Gymry Cymraeg iaith gyntaf, neu yn bobl sy'n gallu cyfathrebu drwy'r Gymraeg i ryw raddau, ac felly yn gallu gwylio S4C?

Ateb 2

Hoffem i'r panel gynrychioli Cymru a siaradwyr Cymraeg fel y nodir, ond gallem hefyd ffiltro'r canlyniadau fesul eu lefelau gwylio i S4C er mwyn creu grŵp adrodd ychwanegol, "gwylwyr rheolaidd S4C", sut bynnag y'i diffinnir.

Mae balans y panel yn amlwg yn gorgynrychioli siaradwyr Cymraeg - fe fydd angen eu pwysoli i'r ganran gywir wrth adrodd ar "Gymru".

Rydym yn hapus i ystyried defnyddio un o'r ddwy opsiwn isod.

Rydym ar hyn o bryd yn defnyddio'r diffiniadau lefelau rhuglder isod. (Mae poblogaethau BARB gennym ar rhain).

RhuglderLefel 1 Yn deall, siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg yn DDA IAWNLefel 2 Yn deall, siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg yn EITHAF DALefel 3 Yn deall, siarad, ysgrifennu a darllen YCHYDIG o GymraegLefel 4 Yn deall ac yn siarad PETH Cymraeg

Rydym hefyd wedi defnyddio, ac mae cyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio'r mesuriadau rhuglder yma: rhugl; yn gallu siarad cryn dipyn; yn gallu siarad ychydig o Gymraeg; neu yn gallu dweud rhai geiriau yn unig. Mae poblogaethau gennym ar gyfer rhain hefyd.

Cwestiwn 3

Oes panel gennych ar y funud - ac os oes, ers pa mor hir mae hwn wedi bod yn rhedeg?

Ateb 3

Mae'r panel presennol wedi bod yn rhedeg am 7 mlynedd, a bu gwasanaethau eraill tebyg cyn hynny gan gwmnïau gwahanol.

Cwestiwn 4

A fydd yr arolygon mwy neu lai'r un fath pob "wythnos" neu a fydd yna newidiadau rheolaidd / ad-hoc i'r holiadur?

Ateb 4

Ar gyfer y dyddiaduron gwylio, byddwch yn derbyn amserlen S4C pob wythnos, (felly mae'r elfen o holi am wylio a gwerthfawrogiad rhaglenni yn seiliedig ar hwnnw) gyda chwestiynau byr rheolaidd wythnosol - dim mwy na 2 neu 3.

Efallai y hoffech ystyried sut y byddwch yn dymuno derbyn y rhain. Gallwn eu danfon atoch yn uniongyrchol (gyda newidiadau achlysurol) neu efallai hoffech eu derbyn o ffynhonnell fel BDS (Broadcast Data Services). Ar y funud fe ddefnyddir y ddwy ffynhonnell (y drafft cyntaf gan BDS, gyda newidiadau hwyr gan S4C).

Hefyd, tua unwaith y mis, byddwn yn gofyn cwestiynau ad-hoc am oddeutu 3 pwnc mewn dyfnder, bydd y rhain yn wahanol pob mis.

Cwestiwn 5

Ar gyfer pob arolwg, a oes angen isafswm maint sampl ar gyfer unrhyw grwpiau penodol?

Ateb 5

Rydym yn tueddu i adrodd ar AI's yn fisol, gyda maint samplau o 25 neu drosodd o fewn pob genre. Mae hefyd angen arnom y gallu i weld samplau llai na hyn mewn maint.

Mae angen i ni allu gweld maint sampl i bob cwestiwn er mwyn gallu asesu pa mor ddibynadwy ydynt. Cynghorwch os teimlwch y dylid cael isafswm sampl.

Cwestiwn 6

A gawn ni enghraifft o holiadur o weithredoedd ymchwil tebyg o'r gorffennol?

Ateb 6

Ni fyddwn yn rhannu holiaduron - rhai safonol i'r diwydiant ydynt. Mae dwy elfen iddynt - dyddiadur gwylio gyda graddfa gwerthfawrogiad 10 pwynt yn erbyn rhaglenni a chwestiynau am ddull gwylio ar gyfer pob rhaglen. Wedyn mae elfen arall - arolwg traddodiadol gyda chyfuniad o gwestiynau penagored a chaeedig.

Cwestiwn 7

Oes amcanion ganddynt am lefelau ymateb disgwyliedig ar gyfer arolygon wythnosol, neu fisol?

Ateb 7

Hoffem yn hytrach i gael eich amcanion chi yn seiliedig ar eich profiad o baneli tebyg.

Cwestiwn 8

A oes angen allbwn arall arnoch ar wahân i fynediad at y canlyniadau? E.e. unrhyw adroddiadau, cyflwyniadau, ayb.

Ateb 8

Mae'r allbwn yn dibynnu ar eich dull darparu gwybodaeth. Os bydd gennym feddalwedd er mwyn gweld adroddiadau, ni fyddem yn disgwyl derbyn adroddiadau na chyflwyniadau gennych. Ond, os teimlwch y bydd cynnig adroddiadau neu gyflwyniadau yn gwella eich cynnig mae croeso i chi gynnig hyn.

Cwestiwn 9

Faint o gyfarfodydd wynebyn wyneb mae S4C yn rhagweld ar ben y cyfarfodydd blynyddol rhyngddynt a'r cwmni llwyddiannus?

Ateb 9

Nid ydym yn rhagweld fod angen cyfarfod wyneb-yn-wyneb yn fwy aml nac yn flynyddol fel arfer, er mae'n bosib y gall fod angen cyfarfodydd chwarterol yn y flwyddyn gyntaf. Rydym hefyd yn rhagweld cynnal cyfarfodydd dros ffôn neu linc fideo fel mae'r angen yn codi.

Cwestiwn 10

Allwch chi egluro eich mwyafswm hyd i'r ddogfen - ai 15 ochr o A4, neu 15 tudalen o A4 (h.y. 30 ochr)?

Ateb 10

Mae hwn yn golygu 15 ochr o A4.

Cwestiwn 11

Rydym yn cymryd y bydd yr holl gwestiynau yn cael eu cylchredeg at y sawl sy'n cynnig gwasanaeth - allwch chi gadarnhau hyn os gwelwch yn dda?

Ateb 11

Fe fydd yr holl gwestiynau ac atebion yn ymddangos ar wefan tendr S4C, fe fyddwn yn cyfeirio pob cwmni tendro ato.

Cwestiwn 12

Mae dau ddyddiad cau yn yr GID ar gyfer gofyn cwestiynau pellach yn ymwneud â'r tendr, erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid inni ddarparu ein cwestiynau terfynol?

Ateb 12

Rhaid darparu pob cwestiwn yn ymwneud â'r tendr erbyn 12.00 ar y 9fed o Fawrth 2015.

Cwestiwn 13

Fe fydd yna arolwg wythnosol ar sail raglenni S4C (52 wythnos ar draws y flwyddyn). Ar gyfer yr elfen hon, oes angen deall pa ddiwrnod o'r wythnos y gwylir, e.e. fformat dyddiadur, neu a fydd yn ddigon i wybod iddynt gael eu gwylio'r wythnos yna a hyd y gwylio? Fe fyddai hyn ochr-yn-ochr a sgôr AI'r rhaglen. Hefyd, oes amcan gennych am y nifer o raglenni bydd yn cael eu holi amdanynt bob wythnos?

Ateb 13

Fe fydd yn ddigon i wybod iddynt gael eu gwylio'r wythnos yna a hyd y gwylio (a dull gwylio). Fe fyddwn yn holi am oddeutu 60 rhaglen S4C yr wythnos. Nodwch mai rhaglenni S4C yn unig fydd yn y dyddiadur gwylio.

Cwestiwn 14

Ar gyfer y dasg fisol rydych yn gofyn am sgoriau AI fesul sianel - a fyddai'r rhain wedi eu hagregu o sgoriau rhaglenni unigol, neu o gwestiwn unigol ar lefel brand sianel?

Ateb 14

Rhaglenni S4C yn unig fydd yn y dyddiadur gwylio, felly fe ellir cyfrifo AI S4C o rheiny. Rydym hefyd yn bwriadu gofyn cwestiynau misol ar lefel brand sianel (fe fydd S4C ymysg y rhestr). Felly fe fydd dau ddull gwahanol o fesur gwerthfawrogiad S4C.

Cwestiwn 15

Os mae sgôr gwerthfawrogiad sianeli yn cael ei seilio ar agregu sgoriau rhaglenni, a fyddech yn disgwyl fod data arolygon wythnosol S4C yn cael eu cyfuno i'r arolwg misol neu a fyddent ar wahân bob tro?

Ateb 15

Fe fyddai angen i sgoriau AI S4C i fod ar gael fesul wythnos, ond hefyd wedi eu cyfuno ar gyfer data misol (neu unrhyw gyfnod arall).

Cwestiwn 16

Os enillwn y prosiect, a fydd y panel presennol yn cael ei symud atom o'r deilydd presennol? Os felly, a fydd yr holl banel yn cael ei symud, neu a fyddwn angen eu gwahodd i ymuno â'r panel newydd yn hytrach na'r un presennol?

Ateb 16

Ein cred ar y funud yw na fydd y panelwyr presennol yn cael eu symud i'r panel hon.

Cwestiwn 17

Hoffwn gael eglurhad o gyfansoddiad demograffig y panel, gan fod 50% o'r panel angen bod yn siaradwyr Cymraeg, tra mai dim ond 20% o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg. A oes angen recriwtio hanner y panel i ffitio demograffeg siaradwyr Cymraeg, a hanner y panel i ffitio demograffeg y Di-Gymraeg?

Ateb 17

Mae hyn yn gywir, rydym yn dymuno i chi recriwtio hanner y panel i ffitio demograffeg siaradwyr Cymraeg, a hanner y panel i ffitio demograffeg y Di-Gymraeg. Wedyn bydd angen pwysoli'r data yna wrth adrodd ar y categori Cymru gyfan.

Cwestiwn 18

Ai 1,500 yw maint y panel cyfan neu maint y panel sy'n adrodd?

Ateb 18

Maint y panel cyfan yw hyn.

Cwestiwn 19

Oes gan y panel presennol gwefan portal ar gyfer ymatebwyr i ymweld â hi, neu ydy'r panel yn cael ei thrin mwy fel bas data ble gwneir popeth drwy ein cysylltiadau â nhw?

Ateb 19

Mae'r panel presennol yn defnyddio gwefan ond mae hynny yn bennaf ar gyfer cwestiynau ac atebion (i leihau e-byst). Mae'r panel yn cael ei drin fel bas data ar y cyfan, lle gwneir pob dim drwy gyfathrebu â phanelwyr.

Cwestiwn 20

Gallwch chi ddweud wrthym sut mae'r panelwyr presennol yn cael eu gwobrwyo? Os rydym yn symud aelodau drosodd, hoffwn beidio awgrymu rhywbeth yn ein cais sydd yn wahanol iawn yn ariannol i beth a ddefnyddir ar y funud. Os cynigiwn ormod, fe fyddwn yn gwastraffu'r gyllideb ar adnodd a fyddai'n well ei ddefnyddio mewn lle arall (fel recriwtio mwy o aelodau) ac os cynigiwn rhy ychydig, ni fydd hyn yn cymell aelodau presennol i symud atom.

Ateb 20

Mae'r gwobrwyon presennol yn cynnwys pot cyfan o £700 y mis, a hefyd £5 y mis mewn talebion stryd-fawr i bawb 16-34 sy'n cwblhau arolwg ar-lein ym mhob mis. Mae hefyd gwobrwyon ychwanegol yn ystod y flwyddyn i greu ffyddlondeb, gydag eitemau fel consol gemau, neu "llechi" - fel arfer yn gysylltiedig â digwyddiad fel Calan Gaeaf, ond nid yw'r rhain yn gyson.

Cwestiwn 21

Mae'r briff yn son y dylai 70% o'r arolygon fod ar-lein, ac o leiaf 30% i beidio bod ar-lein (post). Ni sonnir am y canrannau hyn yn y briff wrth drafod cyfansoddiad y panel, felly a ddylem gymryd fod 30% o'r panel i fod drwy ddull post?

Ateb 21

Mae hyn yn cyfeirio at gyfansoddiad y panel ac nid lefelau ymateb. Felly ie, 30% o'r panel i fod wedi cael eu recriwtio i ymateb drwy'r post.

Cwestiwn 22

Gan fod ymchwil ar-lein a drwy'r post yn digwydd ar gyflymderau gwahanol iawn, pa fath o amserlen ydych chi wedi dod i'r arfer efo o ran gwaith maes ac amserlen adrodd?

Ateb 22

Fe fyddem yn disgwyl derbyn popeth 4-5 wythnos ar ôl i'r dyddiaduron gael eu dosbarthu i'r ymatebwyr.

Cwestiwn 23

Dilyniant i gwestiynau 21 & 22, gan fod ymchwil ar-lein a drwy'r post yn cael lefel ymateb tra gwahanol, hoffwn hefyd wybod pa lefel ymateb sydd gennych ar y panel, dros amser. Gobeithiaf y byddwch yn gallu gadael i ni wybod hyn, ar gyfer ymatebwyr ar lein a ddim ar-lein. Hoffwn wybod hyn yn arbennig er mwyn i ni gyfrifo pa ganrannau o aelodau ar-lein/ddim ar-lein y bydd angen recriwtio er mwyn cael o leiaf 30% o atebion drwy'r post. Os yw dull drwy'r post yn cael lefel ymateb uwch nac ar-lein er enghraifft, fe fyddwn yn trefnu ein recriwtio panel i weddu i hyn.

Ateb 23

Nodwch fod y rhaniad 70/30 yn cyfeirio at gyfansoddiad y panel ac nid cyfansoddiad yr ymatebion. Ni fyddwn yn darparu lefel ymateb, hoffem yn hytrach i chi ddarparu eich amcanion yn seiliedig ar eich profiad o baneli o'r fath.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?