S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

S4C – Cytundeb Glanhau

Mae S4C yn cynnal proses dendro er mwyn penodi darparwr gwasanaethau glanhau am gyfnod o dair blynedd, gyda dewis i ymestyn y cytundeb am 12 mis pellach. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu tendro yn cynnwys y gwaith o lanhau tu mewn i safle S4C yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys swyddfeydd, safleoedd darlledu, safleoedd cegin a ffreutur.

Holiadur Cyn-Gymhwyso i gynnwys rhywun yn y tendr ar gyfer Cytundeb i Gyflenwi Gwasanaethau Glanhau i S4C

Holiadur Cyn-Gymhwyso

Cwestiwn 1

Nodwyd yn yr Holiadur Cyn-gymhwyso y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn Gwahoddiad i Dendro a gwahoddiad i ymweld â'r safle cyn 5 Tachwedd 2014? Rydym wedi cyflwyno Holiadur Cyn-gymhwyso ond heb dderbyn ymateb hyd yn hyn. Ydy hyn yn golygu bod ein cais yn aflwyddiannus?

Ateb 1

Mae'r amserlen mewn perthynas â'r tendr hwn wedi llithro oherwydd salwch. Bydd pob ymgeisydd sydd wedi cyflwyno Holiadur Cyn-gymhwyso yn cael gwybod am ganlyniadau'r gwerthusiad yn fuan. Bydd rheini a fydd yn derbyn gwahoddiad i dendro yn cael gwybod am ddyddiad newydd ar gyfer ymweld â'r safle cyn gynted â phosib. Ymddiheurwn am yr oedi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?