S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Mynediad ar S4C

*Sylwer fod y ddogfen Gwahoddiad i Dendro wedi ei diweddaru – gweler y fersiwn newydd isod*

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau mynediad ar S4C. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r cais yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r cais i S4C yw canol dydd, 22 Tachwedd 2016.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais hwn a/neu'r broses dendro hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, 8 Tachwedd 2016.

Cwestiynau ac Atebion Tendr Gwasanaethau Mynediad ar S4C

Cwestiwn 1

Wedi gweld bod y ddogfen wedi'i adnewyddu ar wefan Sell2Wales. Oes modd rhoi gwybod pa newid/iadau sydd wedi'u gwneud neu oes rhaid mynd trwy'r hen ddogfen a'r ddogfen newydd i ganfod y newid/iadau?

Ateb 1

Mae S4C wedi diweddaru'r Gwahoddiad i Dendro yn dilyn ei gyhoeddi. Yr unig beth sydd wedi newid rhwng y fersiwn wreiddiol a'r fersiwn newydd yw'r cyfeiriad e-bost ar gyfer ceisiadau am eglurhad am y tendr. Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais a/neu'r broses dendro hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 2

Nodir yn y Gwahoddiad i Dendro nad yw rhaglenni BBC a Tinopolis i'w cynnwys yng nghytundeb Byw a Hwyr. Yn y cytundeb Rhaglenni Cyffredinol, rhaglenni BBC yn unig sydd wedi'u heithrio. Ydy hyn y golygu bod rhaglenni Tinopolis a recordiwyd o flaen llaw yn rhan o gytundeb Rhaglenni Cyffredinol?

Ateb 2

Ydyn, mae rhaglenni Tinopolis a recordiwyd o flaen llaw yn ffurfio rhan o'r gwasanaethau o fewn Lot 1 – Is-deitlau Saesneg ar Raglenni Cyffredinol.

Cwestiwn 3

Oes modd derbyn copi electronig i'w lawrlwytho a'i lenwi'n electronig o Atodiad 4, sef y ffurflen wybodaeth sylfaenol, y Gwahoddiad i Dendro i Ddarparu Gwasanaethau Mynediad ar S4C?

Ateb 3

Rydyn ni wedi ychwanegu Atodiad 4 – Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol ar ffurf dogfen Word i'r rhestr o ddogfennau uchod.

Cwestiwn 4

Ar gyfer Lot 4 - Gwasanaeth Isdeitlau Cymraeg - mae'n nodi bydd angen isdeitlo tua 8-10 awr o slotiau rhaglenni yr wythnos. Ydy hyn yn golygu cyfartaledd o 9 awr yr wythnos?

Ateb 4

Fe fydd angen isdeitlo o gwmpas 9 awr yr wythnos ar gyfartaledd ond mae hyn yn ddibynnol ar yr amserlen. Gall y ffigwr wythnosol godi yn ystod cyfnodau prysur o'r flwyddyn, fel tymor yr hydref ac o gwmpas y Nadolig ond gall fod yn llawer is yn ystod cyfnodau tawel fel yr haf. Y flaenoriaeth fydd sicrhau bod rhaglenni addas yn cael eu hisdeitlo yn y Gymraeg. Fe fydd S4C yn paratoi amserlenni o flaen llaw fel bod y cwmni buddugol yn gwybod swmp y gwaith digon o flaen llaw.

Cwestiwn 5

Mewn perthynas â'r gwasanaeth arwyddeg ar sgrîn (BSL), yn benodol yr adran Deunydd a Dosbarthu ar dudalennau 34 a 35 o'r ddogfen dendr, oes yna, neu a fydd yna yn y dyfodol ddarpariaeth ar gyfer cyfleu rhaglenni gydag arwyddeg i S4C trwy ffeil electronig?

Ateb 5

Lot 6: Dylai ymgeiswyr llwyddiannus gyfleu'r rhaglen gydag arwyddeg ar sgrîn ar dâp, neu ar ffeil mewn ymgynghoriad ag S4C. Mae S4C yn bwriadu symud tuag at gyfleu ar ffeil yn unig yn y dyfodol.

Cwestiwn 6

Ym mha fformat mae modd cyfleu ffeiliau ar gyfer Sain Ddisgrifio? Oes modd cyfleu ffeil stereo .WAV unigol sy'n cydgyffwrdd sy'n cynnwys un sianel o sain ddisgrifio ac un sianel gydag arwydd Pan a Phylu?

Ateb 6

Lot 5: Gall ymgeiswyr llwyddiannus gyfleu'r rhaglen â sain ddisgrifio ar ffurf electronig trwy ffeiliau .WAV. Gellir cyfleu ffeil stereo .WAV unigol sy'n cydgyffwrdd sydd yn cynnwys un sianel o sain ddisgrifio ac un sianel gydag arwydd Pan a Phylu.

Cwestiwn 7

Fformat y cais: Ydi'r 20 tudalen ar gyfer y cytundeb a gwybodaeth sylfaenol neu adrannau 3.1.2 - 3.1.6 yn unig?

Ateb 7

Mae'r cyfyngiad ar hyd ymatebion i 20 tudalen A4 ar gyfer un lot yn berthnasol ar gyfer y wybodaeth a ofynnir amdano ym mharagraffau 3.1.2 -3.1.6. (H.y. ni fydd y Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol a sylwadau ar y nodiadau cyfreithiol a'r cytundeb yn cael eu cyfrif o fewn y cyfyngiad o 20 tudalen).

Cwestiwn 8

A oes gwasanaeth hysbysu ar gael lle bo atebion neu ddiweddariadau i'r Tendr yn cael eu cyhoeddi?

Ateb 8

Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar wefan Gwerthwch i Gymru. Bydd partïon sy'n datgan diddordeb yn y tendr ar wefan Gwerthwch i Gymru yn derbyn hysbysiadau ar e-bost gan y gwasanaeth Gwerthwch i Gymru am unrhyw newidiadau a wneir i'r tendr. Bydd pob cais am wybodaeth bellach ac/neu arweiniad mewn perthynas â'r broses dendro hon ac ymatebion S4C i'r fath geisiadau yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd gan nad yw S4C yn darparu gwasanaeth hysbysu.

Cwestiwn 9

A oes angen cynnwys tystysgrifau Harding gyda'r rhaglenni cyfansawdd gydag arwyddeg neu a fydd y rhain wedi cael eu cwblhau yn barod ar gyfer y tâp gorffenedig heb arwyddeg?

Ateb 9

Lot 6: Ar hyn o bryd, nid oes angen am brawf Harding ychwanegol ar gyfer fersiwn o raglen gydag arwyddeg.

Cwestiwn 10

Lle bo angen cyfleu ar dâp, a oes yn well gennych, neu a oes gofyniad i gyfleu tapiau HDCAM neu HDCAMsr, neu a yw'n debygol o fod yn gymysgedd o'r ddau?

Ateb 10

Gellir cyfleu rhaglenni ar dapiau HDCAM neu HDCAMsr, nid yw S4C yn ffafrio un neu'r llall.

Cwestiwn 11

Wrth ystyried lotiau 2 a 3, rydym yn ystyried yr opsiwn o brynu'r offer sydd yn S4C ar hyn o bryd neu o leia' rhai o'r cyfrifiaduron. Beth yw'r broses o ran cytuno ar bris am yr offer yma a phryd bydd modd dod i gytundeb ar hyn gan y bydd angen i ni gynnwys y gost hon fel rhan o'n cais?

Ateb 11

Gellir prynu'r offer (a restrir isod) oddi wrth S4C am £750.HP EliteBook 8470p (Gweithfan) HP Compaq dc7900 SFF (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)HP Z420 Workstation (Gweithfan)HP Z420 Workstation (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)HP Compaq Elite 8300 SFF (Gweithfan)Allweddellau MonitorsPeiriannau argraffuBwth troslais gyda chyfarpar ategol

Cwestiwn 12

Ydy'r offer y byddai modd ei drosglwyddo i'r darparwr newydd yn cynnwys peiriannau argraffu a monitors?

Ateb 12

Ydi.

Cwestiwn 13

Mae'r ddogfen gwahoddiad i dendro yn dweud y byddai S4C yn darparu mynediad i'r gweinydd isdeitlo, yr offer recordio BIST, cyfarpar Prostar ar gyfer llwytho ffeiliau ac hefyd yn darparu cysylltiad ebost. A fydd modd darparu mynediad i'r we hefyd neu oes angen i'r rhai sy'n gwneud cais am y tendr gysylltu â chyflenwr y we eu hunain?

Ateb 13

Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer mynediad i'r we.

Cwestiwn 14

Beth yw'r sefyllfa o ran pwyntiau a gwifrau rhwydwaith?

Ateb 14

Lle bo ymgeisydd llwyddiannus i'w leoli yn swyddfeydd S4C, bydd S4C yn darparu gwifrau mewnol a mynediad at bwyntiau rhwydwaith.

Cwestiwn 15

Gydag unrhyw wasanaeth a fydd wedi ei leoli yn adeilad S4C, a fydd S4C yn parhau i ddisgwyl ffeiliau isdeitlau gael eu creu a'u harbed ar system S4C neu a fydd y darparwr/darparwyr yn gyfrifol am gadw'r rhain ar weinydd eu hunain?

Ateb 15

Bydd gofyn i'r holl ffeiliau is-deitlau gael eu harbed ar system archif S4C.

Cwestiwn 16

Os oes disgwyl parhau i ddefnyddio gweinydd S4C, oes modd cael gwarant gan yr adran TG na fydd unrhyw gyfyngiadau'n cael eu gosod ar y peiriannau a fydd yn amharu ar allu'r peiriannau hynny i greu'r ffeiliau isdeitlau perthnasol, eu gwylio, eu golygu a'u darlledu? Mae problemau wedi codi yn y gorffennol efo'r feddalwedd isdeitlo sydd ar waith yn y Stafell Isdeitlo a'r problemau hynny'n deillio o'r ffaith bod cyfyngiadau ar yr hyn sy'n bosib ei wneud ar y peiriannau yno. Gall rhain fod yn fân osodiadau sydd ddim yn amlwg yn gysylltiedig â'r feddalwedd ei hun ond sy'n gallu effeithio ar y ffordd mae'r feddalwedd yn gweithio e.e. bod angen i'r feddalwedd sgwennu i'r registry wrth wneud ryw weithred a bod dim modd gwneud hynny sy'n golygu bod y feddalwedd ddim yn gweithio'n iawn. Os mai'r disgwyliad yw bod y rhai sy'n gweithio yn y Stafell Isdeitlo yn parhau i weithio ar system S4C o ran arbed ffeiliau ac yn arbennig o ran mynd ar yr awyr gyda ffeiliau byw, oes modd cael rhyw fath o sicrwydd na fydd y gwaith yn cael ei effeithio gan faterion cyfrifiadurol eitha' elfennol ond sy'n gallu bod yn anodd eu datrys?

Ateb 16

Bydd adran TG S4C yn gweithio gydag adran TG yr ymgeisydd llwyddiannus ar unrhyw broblemau TG yn ymwneud â rhyngwynebau rhwng y darparwr ac S4C. Ond, lle canfyddir problem ar offer y darparwr, nid cyfrifoldeb S4C fydd datrys y broblem honno.

Cwestiwn 17

A fydd trwyddedau meddalwedd yn cael eu trosglwyddo os ydyn ni'n prynu'r cyfrifiaduron presennol?

Ateb 17

Ni fydd S4C yn trosglwyddo unrhyw drwyddedau meddalwedd i unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus.

Cwestiwn 18

Mae'r feddalwedd isdeitlo yn dibynnu ar bresenoldeb pecynnau meddalwedd eraill ar gyfrifiaduron, e.e. mae Wincaps yn defnyddio spellchecker Microsoft Word. Beth yw'r sefyllfa gyda thrwyddedau cyffredinol megis Microsoft Office ac ati?

Ateb 18

Yr ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gyfrifol am drefnu mynediad eu hunain i unrhyw feddalwedd gofynnol. Ni fydd S4C yn trosglwyddo unrhyw drwyddedau meddalwedd i unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus.

Cwestiwn 19

A fydd y cyfrifiaduron yn parhau i fod yn rhan o barth (domain) S4C?

Ateb 19

Na, ni fydd unrhyw gyfrifiaduron a drosglwyddir i unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn parhau yn rhan o barth S4C.

Cwestiwn 20

A fydd aelodau staff y darparwr sy'n gweithio ar y cytundeb(au) newydd yn parhau i gael cyfrifon defnyddiwr (gan gynnwys ebost) ar gyfer parth S4C?

Ateb 20

Na, ni fydd staff ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn enwau defnyddiwr S4C nac enwau parth S4C.

Cwestiwn 21

Oes modd cael gwybod spec y cyfrifiaduron presennol sydd yn yr ystafell isdeitlo yn S4C, tebyg i wybodaeth allbwn msinfo32.exe, er mwyn gwerthuso gwerth y cyfarpar wrth ystyried ei brynu?

Ateb 21

Gweler ateb 11.

Cwestiwn 22

Nodir yn Atodlen 1.2, cymal 2.3.4 y cytundeb drafft y dylai darparwr "sicrhau nad yw'r Isdeitlau Byw a Hwyr yn hepgor unrhyw beth a ddywedir ar sgrîn". Ydy S4C yn cytuno bod elfen o grynhoi bob amser yn angenrheidiol mewn isdeitlo, a'i bod yn anochel i beth cynnwys gael ei hepgor mewn isdeitlau byw sy'n gyfieithiad o'r gwreiddiol?

Ateb 22

Lot 2: Mae S4C yn derbyn ei bod hi'n anochel yn nghyd-destun is-deitlo byw a hwyr bod yn rhaid crynhoi ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Mae S4C yn disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gynnwys cymaint o gynnwys y rhaglen â phosibl o fewn yr is-deitlau, a dylai ymgeiswyr ddefnyddio eu synnwyr cyffredin wrth ystyried beth y gellir ei hepgor.

Cwestiwn 23

Yn Atodiad 3.2, ar dudalen 24 y gwahoddiad i dendro, nodir y "bydd angen i unrhyw isdeitlau byw gael eu cofnodi." Mae'r cytundeb drafft hefyd yn nodi (Atodlen 1.2, cymal 2.5) "Bydd y Cwmni'n sicrhau y caiff yr is-deitlau ar gyfer y Rhaglenni Byw eu dal ar fformat Word neu'r cyfryw fformat arall yn unol â gofynion S4C, er mwyn galluogi S4C i gynnwys yr Isdeitlau ar wasanaeth dal-fyny arlein S4C ac iPlayer y BBC, neu fel rhan o ddarpariaeth ehangach." Oes modd cael eglurhad pellach o ran pwy fydd yn gyfrifol am gofnodi'r isdeitlau hyn ac os bydd y system bachu presennol yn parhau i fod yn rhan o'r cyfarpar sy'n cael ei ddarparu gan S4C?

Ateb 23

Lot 2: Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd yn gyfrifol am gofnodi neu fachu'r is-deitlau Byw ac am ddarparu a chynnal unrhyw offer angenrheidiol. Ni fydd S4C yn parhau i ddarparu'r offer a ddefnyddir gan y darparwr cyfredol ar hyn o bryd, ond gall fod cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus berchnogi'r offer hwn oddi wrth S4C.

Cwestiwn 24

Yn Atodiad 3.3 y ddogfen gwahoddiad i dendro, mae S4C yn nodi mai'r disgwyliad ar gyfer Lot 3 yw "gweithdrefn gwirio ieithyddol a thechnegol sylfaenol ar gyfer y ffeil isdeitlau cyn darlledu. Ni ddylai'r gwiriad hwn gymryd llawer mwy o amser na hyd y rhaglen. Disgwylir i'r contractwr llwyddiannus wylio'r rhaglen gyda'r isdeitlau a chywiro unrhyw wallau teipograffyddol, gwallau sillafu a gwallau sylfaenol yn y cyfieithiad." Oes modd cael eglurhad pellach ar sut mae hyn yn cydfynd â chymal 5 Atodlen 1.3 y cytundeb drafft, sy'n nodi bod angen i'r Cwmni gyflwyno adroddiad cynhwysfawr yn cynnwys manylion ar y nifer o wallau, cynnwys, safon a natur yr isdeitlau ayb?

Ateb 24

Lot 3: Fel rhan o'r lot hwn, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwasanaeth gwirio sylfaenol na ddylai gymryd mwy o amser i'w gyflawni na hyd y rhaglen berthnasol. Mae'r gofyniad adrodd fel a nodir ym mharagraff 5 o Atodiad 1.3 i'r cytundeb drafft yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu adborth i S4C ar safon cyffredinol y rhaglenni a wiriwyd yn ystod pob chwarter.

Cwestiwn 25

Beth yw ansawdd / cyflwr ac oedran y peiriannau isdeitlo sydd yn S4C ar y foment a beth fyddai'r gost o'u trosglwyddo i berchennog newydd, os yw hyn yn fwriad gan S4C?

Ateb 25

Oedran yr offer yw dros 5 mlwydd oed, a gweler ateb 11 ar gyfer gwybodaeth am y gost.

Cwestiwn 26

Faint o drwyddedi isdeitlo sy'n bodoli yn Stafell Isdeitlo S4C? Beth fyddai'r gost o'u trosglwyddo i berchennog newydd, os yw hwn yn fwriad gan S4C?

Ateb 26

Mae yna 11 gweithfan, y cyfan â'u thrwyddedau meddalwedd. Ni fydd S4C yn trosglwyddo unrhyw drwyddedau meddalwedd i unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus.

Cwestiwn 27

Mae'r tendr yn nodi y gall deunydd gyrraedd ar dâp neu ffeil ond ar pa fformat fyddai well gan S4C dderbyn deunydd (fersiynau BIST, Sain Ddisgrifio ac Arwyddo)? Fyddai'n well gan S4C dderbyn fersiynau newydd ar yr un fformat â'r tâp gwreiddiol neu fod popeth yn cyrraedd ar ffeiliau AS-11?

Ateb 27

Mae S4C yn parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth cyfleu ar ffeil, felly mae yna opsiwn i gyfleu ar AS 11 ond i wneud hynny mewn ymgynghoriad ag S4C. Fel arall rhaid i'r deunydd a gyflëir gyfateb i'r fformat gwreiddiol.

Cwestiwn 28

Mewn perthynas â Lot 5, does dim sôn am gyfleu OTT, a thrwy hynny gynhyrchu cymysgedd o sain y rhaglen a'r trac sain ddisgrifio. A yw hyn yn ofyniad ar gyfer y tendr hwn?

Ateb 28

Lot 5: Na. Lle bo ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfleu ar dâp, dylai sain y rhaglen Gymraeg fod ar draciau 1 a 2; dylai'r sain ddisgrifio fod ar drac 3; a dylai'r arwydd Pan a Phylu fod ar drac 4. Ar gyfer cyfleu ar ffeil, dylai ymgeiswyr llwyddiannus gyfleu'r sain ddisgrifio trwy ffeil .WAV.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?