S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad i ddatgan diddordeb: Cytundeb Fframwaith Dybio Animeiddiadau Plant

Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o gytundeb fframwaith ar gyfer dybio cyfresi a rhaglenni animeiddiedig ar gyfer gwasanaethau plant S4C gan gynnwys Cyw a Stwnsh.

Mae S4C yn rhagweld yr angen i drwyddedu oddeutu 6 cyfres neu raglenni plant unigol yn flynyddol. S4C fydd yn gyfrifol am ddewis ac ymrwymo i gytundeb gyda pherchennog yr hawliau yn unrhyw gyfres neu raglen animeiddiedig y dymuna S4C ei darlledu.

Mae S4C yn edrych am nifer cyfyngedig o gyflenwyr (uchafswm o 6 a lleiafswm o 3) i ffurfio fframwaith o ddarparwyr sydd yn medru dybio rhaglenni animeiddiedig i'r Gymraeg yn ôl y gofyn. Hysbysir y gwaith i'r cwmnïau ar y fframwaith ar sail prosiect neu brosiectau yn ôl y galw

Cynigir cytundeb o bedair blynedd (2018 i 2022) gyda'r opsiwn i ymestyn am flwyddyn ychwanegol (2023) ar yr un telerau. Bydd S4C yn adolygu cytundeb a pherfformiad pob ymgeisydd llwyddiannus ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a chedwir yr hawl i derfynu cytundeb ar unrhyw adeg yn dilyn y fath adolygiad.

Rydym yn gwahodd cwmnïau cynhyrchu annibynnol, sydd â phrofiad o ddybio ac addasu'r math yma o raglenni, i ddatgan eu diddordeb drwy ddanfon e-bost at tendr.plant@s4c.cymru erbyn 18:00 dydd Llun y 29ain o Ionawr 2018. Fe fydd pob cwmni sy'n datgan eu diddordeb yn derbyn dogfen drwy e-bost erbyn diwedd dydd 31ain o Ionawr 2018, sy'n amlinellu'r manylion pellach a chopi neu linc at raglen enghreifftiol a fydd angen ei ystyried yn rhan o'r cais.

Fel rhan o'ch ymateb tendr, bydd disgwyl i chi wylio'r rhaglen enghreifftiol a danfon cyfieithiad Cymraeg o'r sgript a'ch gweledigaeth ar gyfer y fersiwn Gymraeg yn ogystal â chyllideb a chynllun gwaith yn seiliedig ar y rhaglen enghreifftiol. (Nid oes disgwyl i chi baratoi rhaglen wedi ei haddasu.)

Y dyddiad cau bydd 12:00 dydd Gwener 23ain o Chwefror 2018 a byddwn yn anelu i apwyntio'r cwmniau llwyddiannus erbyn diwedd Dydd Iau 1af o Fawrth 2018.

Byddwn yn asesu'r ymatebion ar sail y meini prawf a nodir yn y gwahoddiad i dendr.

Anelir i ddechrau'r cytundeb gyda'r cwmniau llwyddiannus ym mis Mawrth 2018.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?