S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Straeon yr hydref ar S4C

27 Awst 2009

 Straeon gafaelgar sy’n bwrw golwg unigryw ar ein ddoe a’n heddiw sydd wrth galon amserlen S4C dros yr hydref, amserlen sy’n cynnwys llu o ffefrynnau a chyfresi newydd.

Ymhlith y ffefrynnau hynny mae wynebau poblogaidd Alwyn Humphreys, Dai Jones, Dudley Newbery, Daloni Metcalfe, Nia Parry, Ifor ap Glyn, Iolo Williams a John Ogwen.

Alwyn yw prif gyflwynydd cyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol, sy’n ymweld â phob cwr o Gymru, gan ddod â straeon pwerus a cherddoriaeth ysbrydoledig i wylwyr.

Bydd Dai yn feirniad yn Fferm Ffactor, cyfres sy’n rhoi cyfle i amaethwyr disgleiriaf Cymru frwydro am deitl Ffermwr Gorau 2009 a cherbyd 4x4 newydd sbon. Daloni, aelod o dîm Ffermio, fydd yn cyflwyno’r gyfres, gyda’r Athro Wynne Jones, Pennaeth Coleg Prifysgol Harper Adams, hefyd yn beirniadu.

Troi am Iwerddon yw hanes Dudley Newbery yn Tigh Dudley, lle bydd yn cyd-gyflwyno’r gyfres newydd o’r gystadleuaeth goginio gydag Emma Walford.

Bydd Nia Parry yn cyflwyno'r sioe ffasiwn a dillad, Cwpwrdd Dillad, yn ogystal â’r gyfres gwis deithio 0 ond 1, ochr yn ochr â Morgan Jones.

Ar dramp drwy Gymru mae Ifor ap Glyn yn Popeth ar Ffilm. Bydd yn ymweld â gwahanol gymunedau, gan ddangos ffilm archif am yr ardal fydd yn sbardun ar gyfer creu ffilm fer newydd, gyda chymorth pobl leol.

Yn Cwm Sâl Cwm Iach, bydd Iolo Williams yn gosod her i dri theulu o Gymoedd y De i newid eu ffordd o fyw. Bwyta’n iach, gwneud ymarfer corff rheolaidd ac osgoi arferion drwg fydd y nod.

Yn Y Cleddyf gyda John Ogwen, cyfres bedair rhan, bydd yr actor yn olrhain hanes yr arf, o’r cyfnod cynhanesyddol i oes aur ffilmiau Hollywood. Bydd yr actorion Ioan Gruffudd a Matthew Rhys ymhlith y cyfranwyr.

Bydd tymor o raglenni dogfen unigol hefyd ymhlith uchafbwyntiau’r hydref.

Ffion Hague sy’n cyflwyno Dwy Wraig Lloyd George, sy’n olrhain perthynas y gwleidydd gyda’i wraig gyntaf Margaret Owen, a’i feistres, Frances Stevenson, ddaeth yn ail wraig iddo.

Y ‘Titanic Gymreig’ – llongddrylliad y Royal Charter yn 1859 oddi ar arfordir Ynys Môn - yw testun rhaglen a gyflwynir gan yr awdur a’r cynhyrchydd Bedwyr Rees, sydd â chysylltiad teuluol â’r trychineb.

Bydd portreadau o’r hanesydd Hywel Teifi Edwards, y gwleidydd Ann Clwyd a’r maestro cerddorol Islwyn Evans, arweinydd Ysgol Gerdd Ceredigion, ymhlith y rhaglenni ffeithiol eraill.

Chwe phererindod yw thema Y Daith, cyfres sy’n trafod ystyr crefydd yn yr oes fodern. Un o’r teithiau dan sylw yw ‘Hajj’ cyntaf y cyflwynydd Jason Mohammad, y bererindod i Mecca a’r mannau sanctaidd yn gysylltiedig â’r Proffwyd Muhammad.

Mae’r ganolfan ger Caernarfon a sefydlwyd i gynnig gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni, a bydd cyfres ddogfen fer, Antur Waunfawr, yn olrhain ei hanes.

Ym maes ffuglen, bydd cyfres newydd wedi’i lleoli yn Llandudno, Blodau, yn cael ei darlledu’n hwyrach eleni. Bydd y ddrama, sy’n troi o gwmpas siop flodau, yn cyflwyno wynebau newydd i S4C, gan gynnwys Rhian Blythe, a enillodd y wobr am yr actores orau yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin y llynedd am ei rhan yn y ddrama lwyfan ddirdynnol Deep Cut.

Bydd ail gyfresi o Ista’nbwl, Tudur Owen o’r Doc, Bro a Cofio, gyda Bryn Fôn, Sue Roderick a Dafydd Hywel ymysg gwesteion Heledd Cynwal. Bydd cyfresi newydd o Mastermind Plant Cymru, Byw yn yr Ardd, Noson Lawen a Pawb a’i Farn, tra bod hoelion wyth oriau brig y Sianel - Wedi 7, Newyddion a Pobol y Cwm - yn parhau.

Ym myd chwaraeon, bydd pêl-droed cartref a rhyngwladol yn Sgorio Cymru a Sgorio, gyda darllediad ecsgliwsif o Liechtenstein v Cymru. Bydd dewis o chwaraeon ganol wythnos, gan gynnwys Golffio a Ralïo+, gyda holl gyffro’r tymor rygbi newydd yn cael ei ddangos, bob nos Sadwrn am 6.00pm.

Bydd rhai newidiadau i drefn yr amserlen hefyd. Bydd y sioe gylchgrawn Mosgito yn dod yn rhan o slot Planed Plant a bydd Uned 5 yn symud i 12.30pm ddydd Sul.

Bellach, yn y slot 6.00pm-7.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yr ‘Awr Aur’, bydd cyfle i fwynhau detholiad o raglenni o archif gyfoethog S4C, gyda Hel Straeon, Mil o Alwadau, Almanac, Gwyn a’i Fyd a Brodyr Bach ymhlith yr uchafbwyntiau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Wrth i’r newid i ddigidol gydio yng Nghymru, mae cynnig gwasanaeth amrywiol o safon uchel yn bwysicach nag erioed.

“Mae stori dda yn hanfodol ym mhob maes a dyma yw sail rhaglenni’r hydref. Mae ’na arlwy gref a digon o amrywiaeth, gyda’r pwyslais ar gynnig cyfresi diffiniol ac adloniannol yn ystod yr oriau brig - ffenestr siop y Sianel.”

Amserlenni S4C

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?