S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn chwilio am y pice gorau

26 Chwefror 2007

Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, mae cyfres materion gwledig S4C, Ffermio wedi lansio cystadleuaeth genedlaethol i geisio darganfod y pice bach gorau yng Nghymru.

Fel y bydd y cyflwynydd, Alun Elidyr yn datgelu wrth lansio’r gystadleuaeth yn y rhaglen nos Lun, 26 Chwefror, mae yna brinder mawr o’r haearn bwrw a ddefnyddir i wneud y llechi pobi sy’n gwbl angenrheidiol er mwyn gwneud y pice bach neu’r cacennau cri perffaith

Mae’r llechen ddelfrydol - a elwir yn ‘planc’ neu ‘maen’ - yn radell o haearn bwrw trwchus sy’n twymo’r cacennau yn araf ac yn wastad. Oddi ar ddiflannu’r ffwrneisi haearn a oedd yn gyffredin yng Nghymru ar un adeg, mae ‘na brinder o’r haearn bwrw angenrheidiol.

Ond, fel y datgelir yn y rhaglen, mae menter newydd a lansiwyd gan ŵr busnes ifanc yn Abertawe yn bwriadu llanw’r bwlch.

Sylweddolodd Caerwyn Ash, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd, bod yna fwlch yn y farchnad am lechi pobi pan fu ef a’i frawd yn chwilio am radell hen ffasiwn i wneud pice bach.

Eglurodd Caerwyn, 25 oed, o’r Welsh Griddle Company, “Roeddwn i’n digwydd trafod gyda’r teulu tua blwyddyn yn ôl, sut oedd ein Mam-gu yn arfer gwneud pice bach i ni. Penderfynodd fy mrawd a minnau edrych ar y we i geisio dod o hyd i radell haearn trwchus i’w prynu er mwyn gwneud pice ar y maen, ond methu wnaethom ni. Roeddwn i’n ystyried hynny’n rhyfedd fel Cymro balch sy’n hoff o’i bice bach.

“Gan fod gen i gefndir mewn peirianyddiaeth, penderfynais ddod o hyd i’r haearn bwrw angenrheidiol fy hun, a mynd ati i gynhyrchu gredyll Cymreig a’i gwerthu mewn pecyn gyda llyfr coginio Cymreig. Ers sefydlu’r cwmni, mae ‘na alw mawr am y gredyll yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd.”

Sbardunwyd Ffermio i osod sialens i’r gwylwyr a’r we ymwelwyr drwy geisio dod o hyd i’r ‘Pice Bach’ gorau yng Nghymru.

Mae cynhyrchwyr y gyfres, Teledu Telesgôp, yn cynnig gwobr am y pice bach gorau a dderbynnir yn ei bencadlys yn Abertawe. Bydd panel o arbenigwyr o’r gyfres yn cael gwledd yn ystod y pythefnos nesaf wrth iddynt brofi cannoedd o’r cacennau.

“Bydd gofyn i’r cystadleuwyr yrru eu pice bach drwy’r post erbyn 5ed Mawrth”, medd Terwyn Davies, cyfarwyddwr rhynghweithiol Ffermio. “Bydd pob cacen yn cael ei blasu a’i beirniadu a chyhoeddir enillydd cystadleuaeth y ‘Pice Bach Gorau’ ar y 12fed o Fawrth. Bydd yr enillydd yn derbyn tarian a gomisiynwyd yn arbennig gan Ffermio.”

Ceir holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Ffermio, ffermio.tv a’r cyfeiriad i chi yrru eich cacennau yw Cystadleuaeth Pice Bach, Teledu Telesgôp, Uned 13, Technium, 1, Heol y Brenin, Abertawe, SA1 8PH.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?