S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gerallt Pennant yn ymuno â thîm Wedi 7

23 Ebrill 2007

 Wyneb a llais cyfarwydd Gerallt Pennant fydd yn dod â straeon y gogledd i wylwyr Wedi 7 ar S4C o hyn ymlaen.

Gerallt fydd olynydd Gwyn Llewelyn fel gohebydd y rhaglen yn y gogledd ac mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at y sialens.

“Mae rhywbeth newydd bob amser yn her. Fy niddordeb mawr i yw pobl. Pobl sy’n gwneud stori dda. Rwy’ wrth fy modd yn chwilio am bobl sydd â rhywbeth i’w ddweud a cheisio gwneud y ‘deud’ hynny yn ddiddorol i’r gwylwyr,” medd Gerallt.

Mae Gerallt eisoes yn adnabod ei blwy’ yn dda. Fe’i ganwyd ar fferm ym Mryncir a mynd i Ysgol Gynradd Garndolbenmaen ac i Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes. Mentrodd i’r gorllewin am ei addysg bellach gan astudio Cymraeg a Hanes yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n byw ym Mhorthmadog ers deng mlynedd bellach.

Bu’n cyflwyno Clwb Garddio ar S4C am 11 mlynedd ac mae ei lais yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel cyflwynydd y rhaglen blygeiniol Galwad Cynnar bob bore Sadwrn am 6.30. Sgwrsio â phobl – ei hoff waith - fydd Geraint ar y rhaglen wrth i’r cyhoedd ffonio i mewn ac e-bostio gyda’u sylwadau a’u straeon.

Yn gerddwr brwd, bu Gerallt yn gynhyrchydd/gyfarwyddwr cyfres Iolo Williams, Crwydro ar S4C ac mae’n dal i grwydro’r mynyddoedd sydd â’u copaon i’w gweld o’i ddrws ffrynt ym Mhorthmadog.

“Dwi wedi dringo’r Moelwyn Bach a’r Moelwyn Mawr, y Cnicht, Moel-y-Gest a Moel Hebog a hefyd i ben Yr Wyddfa sydd i’w gweld o gopa Moel Hebog. Y Rhinogydd yw’r unig sialens leol sydd ar ôl ond mae’n cymryd tair awr o gerdded i gyrraedd y Rhinogydd felly rhywbeth at y dyfodol efallai,” chwardda Gerallt.

Yn aelod o Glwb Mynydda Cymru a Chlwb Dringo Porthmadog, bydd Gerallt bob amser yn crwydro â chamera yn ei boced – ffotograffiaeth yw un arall o’i ddiddordebau yn ogystal â garddio, wrth gwrs. Mae’n ysgrifennu colofn arddio yn Y Cymro bob wythnos ac mae ei luniau o erddi hefyd yn ymddangos. Fe fydd yn cyfrannu i eitemau garddio Wedi 3.

Wrth groesawu Gerallt i’r tîm, dywedodd Golygydd Wedi 7, Angharad Mair, “Mae’n bleser o’r mwya cael estyn croeso i Gerallt fel rhan o dîm Wedi 7 a Wedi 3. Mae ei frwdfrydedd a’i hoffter tuag at bobl y gogledd a’u straeon yn amlwg, ac rydym yn edrych ymlaen i weld ei eitemau ar y sgrïn. Doedd cael gafael ar y person iawn i olynu Gwyn Llewelyn ddim yn hawdd, ond rwy’n berffaith sicr bydd Gerallt yn cydio yn yr awennau yn wych ac yn gaffaeliad mawr fel aelod newydd o’r tîm gohebu.”

Wedi 7

Llun – Iau, 7.00pm, S4C.

Isdeitlau Saesneg ar gael.

s4c.co.uk/wedi7

Ar gael ar fand llydan – s4c.co.uk/gwylio

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?