S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

38 enwebiad BAFTA Cymru i S4C

17 Ebrill 2007

Mae S4C wedi derbyn 38 enwebiad yn noson wobrwyo BAFTA Cymru eleni. Ymhlith y rhaglenni a enwebwyd mae Con Passionate, Bandit, a Cnex. Mae’r ddrama gyfnod Treflan a’r rhaglen goginio i blant Stwffio hefyd wedi eu henwebu, yn ogystal â Cowbois ac Injans ac Y Pianydd - Llŷr Williams, a enillodd gwobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn ddiweddar. Mae rhaglenni S4C wedi derbyn tri enwebiad yn y categori Newydd Ddyfodiad Gorau. Mae cyflwynydd Stwffio, Anthony Evans, Sgriptiwr Cnex, Barry Evans a chyfarwyddwr Cowbois ac Injans, Gareth Bryn i gyd wedi’u henwebu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?