S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhys Ifans i serennu yn sioe dafarn Pws

19 Ebrill 2007

 Mae’r actor byd-enwog Rhys Ifans i ymddangos yn sioe gomedi deithiol S4C Pws ar nos Wener, 20 Ebrill am 9.00pm.

Fe fydd Ifans, seren ffilmiau fel Notting Hill, The Shipping News, Human Nature, Enduring Love, Twin Town ac Once Upon A Time In The Midlands, ar y sioe newydd yng Ngwesty’r Llew Coch ym mhentref mynydd Dinas Mawddwy yn Eryri.

Mae’r actor o Ruthun, sydd ar fin dechrau ffilmio ffilm newydd HBO, ‘A Number’, ynghyd â’r actor Tom Wilkinson, yn cael ei gyfweld gan ddau arweinydd y noson, y comedïwr Dewi ‘Pws’ a’i gyd-gyflwynydd Arfon Haines Davies.

Fe fydd y sioe hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y grŵp roc Frizbee, y gantores Sian James a’r actor Tony Llywelyn a chlipiau ffilm yn llawn jôcs a pherfformiadau gan bobl leol a ffilmiwyd dros gyfnod o wythnos.

Dywed Rhys Ifans, sy’n nabod Dewi Pws ers blynyddoedd ond erioed tan nawr wedi rhannu llwyfan gydag ef, ei fod yn edrych ymlaen at y sioe.

Meddai Rhys Ifans, a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf yn sioe S4C Y Ddau Frank,

“Rwy'n edmygwr mawr o Dewi Pws - wedi bod erioed - ac yn ffan mawr ohono fel diddanwr, ysgrifennwr, actor, canwr o ddyddiau'r Tebot Piws Mi fyddwn yn fodlon teithio'n bell iawn i fod yn ei gwmni.”

Meddai Dewi Pws yn bryfoclyd, “Mae’r cynhyrchwyr wedi dweud wrtha i y gallwn fforddio gael Rhys Ifans ar gyfer pum sioe neu Ioan Gruffudd ar gyfer un, felly aethom ni am yr opsiwn tsepia!”

Ychwanega Pws, “Mae wedi dysgu’r cwbl mae yn ei wybod gennyf i - mae wedi bod yn wrandäwr da. Gobeithio bod e’ wedi deall digon i ofyn am yr arian o flaen llaw achos fi sy’n talu pawb ar y sioe hon!”

“Ond, a bod o ddifrif, mae’n foi grêt ac mae’n amlwg bod ei Gymreictod yn bwysig iawn iddo fe. Mae’n hwb fawr ei gael e ar sioe a ddylai fod yn un eitha’ bywiog.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?