S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad Rose D’Or i Con Passionate

23 Ebrill 2007

Mae un o gyfresi drama mwyaf poblogaidd S4C wedi’i henwebu ar gyfer un o brif wobrau darlledu Ewrop yng Ngŵyl Rose d’Or yn Lucerne, Y Swistir, 5-9 Mai.

Mae Con Passionate yn dilyn hynt a helynt aelodau o gôr meibion Cymreig a’u harweinydd, Davina, a bortreadir gan Shân Cothi.

Mae’r gyfres eisoes wedi ennill llu o wobrau mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a BAFTA Cymru.

Mae’r Ŵyl Rose d’Or wedi gwobrwyo’r rhaglenni teledu gorau o bedwar ban byd ers bron hanner canrif, ac eleni mae rhestr fer o 64 enwebiad ar draws saith categori wedi ei chreu o blith 358 o geisiadau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae gwobrwyon Rose d’Or yn cydnabod doniau ym myd teledu ar draws y byd, ac mae’n gamp arbennig i bawb sy’n rhan o dîm Con Passionate i gael eu cydnabod o blith cynyrchiadau gorau’r byd. Pob hwyl iddynt yn yr ŵyl.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?