S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gweddarlledu'n fyw

01 Mai 2007

Mae S4C wedi dechrau gweddarlledu ei gwasanaeth S4C digidol dyddiol yn fyw ar fand llydan, ar s4c.co.uk.

Mae’r datblygiad hwn, sy’n rhan o strategaeth aml-lwyfan S4C, yn golygu y bydd gwylwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn gallu gwylio S4C yn rhad ac am ddim ar eu cyfrifiaduron personol.

Yn amodol ar glirio hawliau darlledu, fe fydd y gwasanaeth yn cynnwys darlledu chwaraeon byw.

Bu modd gwylio rhaglenni unigol ar y we ar alw ers dros flwyddyn, ynghyd â gweddarllediadau byw o holl brif ddigwyddiadau diwylliannol Cymru. Mae S4C digidol hefyd ar gael y tu allan i Gymru ar Sky.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: “Mae gan S4C ymrwymiad i sicrhau bod cynnwys S4C ar gael yn rhad ac am ddim i wylwyr a defnyddwyr a’n nod yw adeiladu ar ein presenoldeb ar bob un o’r prif lwyfannau digidol yn y Deyrnas Unedig.

“Mae Cyfrifiad 2001 yn dangos bod yna 158,000 o siaradwr Cymraeg yn byw y tu allan i Gymru yn y Deyrnas Unedig ac mae’n bwysig bod cynnwys S4C ar gael i’r gwylwyr posibl yma, ynghyd â phobl eraill â diddordeb mewn gwylio rhaglenni gwreiddiol o ansawdd uchel.”

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

• Ni ddarlledir y toriadau masnachol rhwng rhaglenni ar y we.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?