S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

47 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C

16 Ebrill 2009

Mae Martha, Jac a Sianco, ffilm bwerus S4C am etifeddiaeth a thorcalon teuluol, wedi derbyn wyth enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru 2009, gan gynnwys y Ffilm Orau, yr Actores Orau ar gyfer Sharon Morgan a’r Actor Gorau ar gyfer Ifan Huw Dafydd.

Mae’r enwebiadau yma ymhlith y 47 a dderbyniodd S4C am amrywiaeth eang o gynhyrchiadau.

Mae cynyrchiadau drama eraill S4C yn amlwg hefyd yn y rhestr enwebiadau. Mae Con Passionate, sy’n dilyn hynt a helynt côr meibion, a’r ddrama ddinesig Caerdydd wedi cael eu henwebu yn y categori Cyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu. Mae’r cyfresi drama yma hefyd wedi cael eu henwebu ar gyfer y wobr Awdur Gorau ar gyfer y Sgrin, gyda Siwan Jones, awdur Con Passionate, a Roger Williams, awdur Caerdydd, yn cystadlu am y brif wobr.

Cafodd y gyfres ddrama am giangsters, Y Pris, hefyd ei henwebu ar gyfer ystod o wobrau gan gynnwys Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama a’r Cyfarwyddwr Gorau: Ffilm/Drama.

Mae Shelley Rees, sy’n chwarae un o brif gymeriadau’r gyfres 2 Dŷ a Ni, wedi derbyn enwebiad yng nghategori’r Actores Orau, tra bod Ryland Teifi, sy’n portreadu Peter yn Caerdydd, yn y ras am wobr yng nghategori’r Actor Gorau.

Mae’r gyfres ddrama ar gyfer pobl ifainc, Rownd a Rownd, yn derbyn enwebiad yn y categori Rhaglen Ieuenctid Orau. Mae’r sioe gylchgrawn Uned 5 a’r sioe gerddoriaeth Bandit ar yr un rhestr fer. Mae cyflwynydd Uned 5, Mari Lovgreen, enillydd Gwobr Newydd Ddyfodiad Gorau BAFTA Cymru 2006, wedi cael ei henwebu yn y categori Cyflwynydd Gorau.

Mae rhaglenni ffeithiol S4C yn amlwg hefyd. Mae Natur Cymru, y gyfres drawiadol am dirwedd a bywyd gwyllt Cymru, yn derbyn enwebiad ar gyfer y Rhaglen Ffeithiol Orau a’r Camera Gorau: Heblaw Drama. Mae rhifyn o’r gyfres ddogfen Afon, sy’n canolbwyntio ar yr afon Yangtzee, hefyd wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Camera Gorau: Heblaw Drama.

Mae’r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar a’r rhaglenni dogfen Rygbi: Y Gêm Agored ac America 08: Dewi Llwyd ar Daith hefyd wedi cael eu henwebu am wobrau.

Mae S4C wedi derbyn ystod o enwebiadau am ei rhaglenni cerddoriaeth. Un o’r cynyrchiadau dderbyniodd enwebiad oedd darllediad o gynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru, Falstaff - Yr Opera, a welodd Bryn Terfel yn y brif ran. Cafodd Nodyn, a gyflwynir gan y gantores Elin Fflur, enwebiad am y Rhaglen Gerdd Orau a Chyfarwyddwr Goleuo Gorau: Heblaw Drama. Mae Gala Operatig Gŵyl y Faenol wedi cael ei henwebu yn y categorïau Sain Gorau a Chyfarwyddwr Goleuo Gorau: Heblaw Drama. Mae’r cyngerdd Grand Slam hefyd wedi cael ei henwebu yn y categori Cyfarwyddwr Goleuo Gorau: Heblaw Drama.

Mae Y 7 Magnifico a Matthew Rhys, a ddilynodd griw o sêr o Gymru yn dysgu bod yn gowbois ar y paith yn Arizona, yn derbyn enwebiad yn y categori Adloniant Ysgafn.

Cafodd Nadolig Plentyn yng Nghymru, sydd wedi ei seilio ar glasur Dylan Thomas, enwebiad am wobr Animeiddio Gorau. Mae Eliffantod, ffilm animeiddio fer gan Sally Pearce, a enillodd ysgoloriaeth S4C i fynychu’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol, wedi derbyn enwebiad yn y categori Ffilm Fer Orau.

Mae’r gyfres animeiddio ar gyfer plant, Holi Hana, a enillodd y wobr Animeiddio Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru y llynedd, wedi cael ei henwebu ar gyfer Rhaglen Blant Orau, ynghyd â’r sioe Hip neu Sgip.

Mae tri chynhyrchiad gan S4C, Byw yn yr Ardd, Cwm Glo Cwm Gwyrdd a Lle Aeth Pawb? wedi cael eu henwebu yn y categori Dylunio Graffeg Gorau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’n gryn gamp i dderbyn 47 enwebiad ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru eleni mewn ystod mor eang o gategorïau, o ddrama i ddogfen, newyddion a materion cyfoes, plant ac adloniant ysgafn.

“Rwy’n arbennig o falch am y gydnabyddiaeth a dderbyniodd Martha, Jac a Sianco, addasiad ffilm S4C o nofel arobryn Caryl Lewis sy’n dilyn hanes dau frawd a chwaer canol oed sy’n brwydro am eu hannibyniaeth yn dilyn marwolaeth ei mam.

“Mae’r ffilm drawiadol hon yn adlewyrchu strategaeth ffuglen S4C sy’n cynnig llwyfan i awduron a chyfarwyddwyr herio cynulleidfaoedd trwy gyfrwng cynnwys blaengar a gwreiddiol.

“Mae nifer o gynyrchiadau drama eraill S4C hefyd wedi’u henwebu, yn ogystal â rhaglenni mewn amrywiaeth o feysydd a gynhyrchwyd gan dimau talentog yn y sector annibynnol, BBC Cymru ac ITV Cymru.”

Diwedd

ENWEBIADAU BAFTA CYMRU 2009 S4C

Y Ffilm/Ddrama Orau

Martha, Jac a Sianco – Paul Jones, Lona Llewelyn Davies (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Gyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu

Caerdydd – Ed Thomas (Fiction Factory)

Con Passionate - Paul Jones, Lona Llewelyn Davies (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Newyddion a Materion Cyfoes Gorau

America 08: Dewi Llwyd ar Daith – Garmon Rhys (BBC Cymru)

Y Byd Ar Bedwar - Geraint Evans (ITV Cymru)

 

Y Rhaglen Ffeithiol Orau

Natur Cymru – John Gwyn (Cynhyrchiadau Aden)

O Flaen Dy Lygaid – Marc Edwards (BBC Cymru)

Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau

Rygbi: Y Gêm Agored – Ed Thomas/Dafydd Rhys/Gethin Scourfield (P.O.P.1.)

Yr Adloniant Ysgafn Gorau

Y 7 Magnifico a Matthew Rhys - Ronw Protheroe/Angharad Garlick (Boomerang Plus plc)

Y Rhaglen Gerddorol Orau

Falstaff – Yr Opera – Gareth Williams (Rondo Media)

Nodyn – Gruffydd Davies (Boomerang Plus plc)

Y Rhaglen Blant Orau

Holi Hana – Robin Lyons (Calon)

Hip neu Sgip – Hefin Rees/Gwenda Griffith (Fflic, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Rhaglen Ieuenctid Orau

Bandit - Gruffydd Davies (Boomerang Plus plc)

Uned 5 - Nest Griffith (Antena)

Rownd a Rownd - Susan Waters/Bedwyr Rees/Robin Evans (Rondo Media)

Yr Animeiddio Gorau

Nadolig Plentyn yng Nghymru - (Cwmni Da/Brave New World)

Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama

Martha, Jac a Sianco – Richard Wyn Huws (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Pris – Peter Thornton (Fiction Factory)

Y Camera Gorau: Heblaw Drama

Natur Cymru – Steve Phillips (Cynhyrchiadau Aden)

Yr Afon – Haydn Denman (Green Bay Media)

Y Sain Gorau

Gala Operatig Gŵyl y Faenol – Owen Thomas (BBC Cymru)

Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau – Dim Camera

Falstaff – Yr Opera – Bernie Davies (Rondo Media)

Gala Operatig Gŵyl y Faenol – Martyn Rourke (BBC Cymru)

Grand Slam – Tim Routledge (BBC Cymru)

Y Cynllunio Gorau

Martha, Jac a Sianco – Phil Williams (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Pris – Haydn Pearce (Fiction Factory)

Y Dyluniad Graffig Gorau

Byw yn yr Ardd – Departures

Cwm Glo Cwm Gwyrdd – The Bait/Owain Elidir

Lle Aeth Pawb? – Cwmni Da/Rough Collie

Y Gwisgoedd Gorau

Martha, Jac a Sianco – Dawn Thomas Mondo (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Coluro Gorau

Martha, Jac a Sianco – Stephen Williams (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Pris – Nel Bat (Fiction Factory)

Y Criw Byw Gorau

Marathon Eryri – Dylan Huws (Cwmni Da)

Y Clwb Rygbi – Cymru v Ffrainc – Siôn Thomas (BBC Cymru)

Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin

Con Passionate – Siwan Jones (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Caerdydd – Roger Williams (Fiction Factory)

Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau

Martha, Jac a Sianco – John Hardy (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Cyfarwyddwr Gorau Drama/Ffilm

Con Passionate – Rhys Powys (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Pris – Gareth Bryn (Fiction Factory)

Y Cyfarwyddwr Gorau

Falstaff – Yr Opera – Hefin Owen (Rondo Media)

Rygbi: Y Gêm Agored – Ed Thomas (P.O.P.1.)

Yr Actor Gorau

Martha, Jac a Sianco – Ifan Huw Dafydd (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Caerdydd – Ryland Teifi (Fiction Factory)

Yr Actores Orau

Martha, Jac a Sianco – Sharon Morgan (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

2 Dŷ a Ni - Shelley Rees (ITV Cymru)

Y Cyflwynydd Gorau ar y Sgrin

Uned 5 - Mari Lovgreen (Antena)

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?