S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sianel deledu Gymraeg newydd i blant

14 Mai 2007

 Mae Awdurdod S4C, y corff sy’n gyfrifol am oruchwylio S4C, heddiw (14 Mai) yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gynlluniau i gyflwyno sianel gwasanaeth cyhoeddus newydd yn Gymraeg i blant.

Fe fydd yr ymgynghoriad deg wythnos yn gofyn barn y cyhoedd a rhan-ddeiliaid allweddol am y gwasanaeth newydd arfaethedig, a anelir at blant i fyny at 16 0ed. Bydd yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gymeradwyo’r gwasanaeth newydd.

Meddai John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Mae gwylio pobl ifanc yn mudo o’r prif sianeli teledu i’r sianeli arbenigol hynny sy’n darparu rhaglenni i bobl ifanc yn unig. Gyda theledu ar fin mentro i’r oes ddigidol-yn-unig, rhaid inni sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru yn cael yr un cyfle â phlant a phobl ifanc mewn mannau eraill. Mae’n hollbwysig bod gwasanaeth Cymraeg cyfatebol yn cael ei ddarparu.

Ychwanegodd, “Mae cenhedlaeth o blant a phobl ifanc sydd yn angerddol am eu diwylliant hefyd yn rhan o genhedlaeth ehangach sydd â dealltwriaeth o’r cyfryngau ac â disgwyliadau uchel ynghylch pryd a sut y maent am ddefnyddio cyfryngau. Fe fyddem yn colli cyfle os na allwn ateb eu disgwyliadau nhw, gan wadu iddynt y dewis o ddefnyddio’r cyfryngau yn yr iaith Gymraeg.”

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn holi barn y rhai sydd â diddordeb yn y maes hwn - yn benodol, athrawon, rhieni, elusennau plant, mudiadau ieuenctid, gwleidyddion a’r plant eu hunain. Rydym am sicrhau bod ein gwasanaeth yn ateb anghenion ein pobl ifanc.”

Byddai S4C yn ariannu’r gwasanaeth o’i chyllid presennol. Byddai cyllid ychwanegol o ffynonellau masnachol S4C yn halpu ariannu’r costau cychwynol a thechnegol. Mae S4C yn un o brif brynwyr rhaglenni gwreiddiol i blant yn y DU gyda chyllideb o £10.9 miliwn i wario ar gomisiynu o’r sector annibynnol yn 2007.

Argymhellir y bydd y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ar deledu lloeren ddigidol, cebl digidol a daearol digidol. Fe fydd hefyd ar gael i wylwyr yn rhannau eraill y DU ar loeren ddigidol a band llydan.

Ewch i’r wefan s4c.co.uk/plant i gael manylion ynghylch sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n dod i ben ddydd Gwener, 20 Gorffennaf.

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

1. Dangosodd Cyfrifiad 2001 bod 41% o blant yng Nghymru rhwng 5-14 oed yn siarad Cymraeg – cynnydd o 15% ers ffigurau 1991.

2. Mae’r argymhelliad yma’n cyd-daro â thrafodaeth o fewn y diwydiant yn gyffredinol am ddyfodol rhaglenni plant. Mae Ofcom, y corff sy’n rheoleiddio cyfathrebiadau yn y DU, wedi clustnodi cynnyrch plant fel elfen allweddol o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ac ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o’r genre pwysig hwn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?