S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Brand newydd S4C yn ennill Gwobr yr EBU

09 Mai 2007

    Mae S4C wedi ennill ei gwobr fawr gyntaf am ei brand newydd yng Ngwobrau'r Undeb Darlledu Ewrop (EBU) yn Lucerne, Y Swistir yr wythnos hon.

Lansiwyd y brand newydd, a gaiff ei integreiddio yng ngwasanaethau S4C ar yr awyr, oddi ar yr awyr ac ar-lein, fis Ionawr eleni er mwyn disodli'r hen frand a oedd wedi bod ar waith ers 1993.

Wedi ei gydlynu gan Dylan Griffith, Cyfarwyddwr Creadigol S4C, a’i greu ar gyfer S4C gan Proud Creative, nod y brand yw rhoi diwyg ac agwedd gyfoes i S4C a fydd yn paratoi'r Sianel at yr oes ddigidol-yn-unig yn 2009.

Enillodd y brandio newydd y wobr am y ‘Pecyn Cyfan’ yng Nghategori’r ‘Dylunio Gorau’, sef y brif wobr a roddir gan yr EBU Connect, y gymdeithas bwysicaf ar gyfer darlledwyr y byd.

Meddai Max Johns, Cydlynydd EBU Connect: “Fe wnaeth arddull unigryw’r pecyn cyfan a gyflwynwyd gan S4C greu argraff fawr ar y beirniaid. Roedd y beirniaid o’r farn bod yr holl elfennau amrywiol yn creu pecyn crwn, cyflawn. Mae gofyn am ddewrder i greu pecyn gweledol o’r newydd ac mae’n dangos hyder yn y rhaglenni. Mae’n rhoi balchder i bobl weithio i sianel sy’n unigryw.”

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: “Nod y brand newydd yw adlewyrchu agenda S4C ar gyfer rhagoriaeth greadigol ac i helpu i roi amlygrwydd i’r Sianel fel darlledwr aml-lwyfan yn yr amgylchfyd digidol. Rydym yn falch iawn fod y brand ei hunan bellach yn cael ei gydnabod am ei ragoriaeth greadigol gan un o brif sefydliadau’r diwydiant darlledu.”

Ychwanega Dylan Griffith, Cyfarwyddwr Creadigol S4C, “Roeddem am i hunaniaeth newydd y Sianel adlewyrchu apêl eang a chyfoes holl wasanaethau S4C. Mae’r wobr ‘Pecyn Cyflawn’ yma yng Ngwobrau Dylunio’r EBU yn cydnabod ein bod yn cyflwyno delwedd gyffrous, ddeinamig a datblygedig y Sianel i gynulleidfa ryngwladol ymhob cyfrwng.”

Mae’r gyfres gychwynnol o ffilmiau hyrwyddo, a saethwyd mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled Cymru, yn seiliedig ar y syniad o berthyn ac o atyniad i Gymru, ble bynnag y bo rhywun.

Rhoddodd y cyfarwyddwr arobryn Simon Ratigan ei stamp gweledol arbennig ei hun ar y gwaith creadigol. Ymhlith y cyfranwyr eraill i’r prosiect roedd: Minivegas, Freefarm, The Acid Casuals, Marc Ortmans, Rushes, John Hill, Ariane Geil, Lineto a Core Multimedia.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Ers 1991, cynhelir cynhadledd yr EBU Connect yn flynyddol mewn lleoliad gwahanol yn Ewrop. Trefnir y gynhadledd ar gyfer pobl broffesiynol yn y diwydiant teledu sy’n ymwneud â hyrwyddo ar sgrin, marchnata a chyflwyno, dylunio a brandio. Caiff ei gydnabod yn fwyfwy fel prif fforwm ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau creadigol ym myd teledu yn Ewrop. Nod y gynhadledd yw annog cyfathrebu cyson a chyfnewid gwybodaeth.

Roedd rhan o’r gynhadledd yn 2007 yn cynnwys sesiynau ar ail-frandio, gydag esiamplau o S4C, BBC1, y sianel Almaenig, MDR a phrif sianel gyhoeddus De’r Affrig, SABC 1.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?