S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C y cyntaf i gynnig is-deitlau Pwyleg

04 Mehefin 2007

Bydd is-deitlau Pwyleg yn cael eu defnyddio am yr hyn a gredir yw’r tro cyntaf ar raglen deledu ym Mhrydain pan fydd S4C yn dangos rhaglen ddogfen am Bwyliaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Cyflwynir y rhaglen O Flaen Dy Lygaid: Polska Cymru (nos Fawrth, 5 Mehefin, 9.00pm) gan Barbara Owsianka, a anwyd a’i magwyd yn Llundain gan rieni oedd ymhlith y miloedd a ffodd i Brydain o wlad Pwyl ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Priododd Gymro, Eryl Roberts ac, erbyn hyn, maent yn byw yn Sling, ger Bangor, gyda’u dau blentyn, Elin ac Aled, sy’n siarad Pwyleg, Cymraeg a Saesneg.

Daeth y syniad o ddefnyddio is-deitlau Pwyleg ar y rhaglen gan y cyfranwyr fel yr eglura

Marc Edwards, Cynhyrchydd y Gyfres: “Fe gawson ni help gan Bwyliaid ar hyd a lled Cymru ac roedden nhw wrth eu bodd ein bod ni'n rhoi sylw i'w cymuned. Ganddyn nhw ddaeth y syniad o gynnig is-deitlau Pwyleg mewn gwirionedd. Roedden nhw'n awyddus i Bwyliaid drwy Brydain gael y cyfle i fwynhau'r rhaglen ac rydyn ni'n falch iawn o helpu troi hynny'n realiti.”

Meddai Emlyn Penny Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynnwys S4C. “Mae yna boblogaeth fawr o bobl o wlad Pwyl yng Nghymru erbyn hyn ac roedd yn ymddangos yn gam naturiol i’w gymryd ar gyfer y gynulleidfa sylweddol fyddai’n dymuno dilyn y sylwebaeth yn eu hiaith eu hun.

“Fel sefydliad sy’n bodoli i wasanaethu siaradwyr iaith leiafrifol, mae’n bleser gennym gymryd y cam hanesyddol hwn o gynnig gwasanaeth pellach i grŵp lleiafrifol er mwyn sicrhau eu bont yn cael y mwynhad gorau o raglen am eu cymuned.”

Mae’r rhaglen yn tanlinellu’r ffaith nad peth diweddar yn unig yw’r mewnlifiad o bobl o wlad Pwyl i Gymru, er y buasai rhai yn credu hynny. Y ffaith yw bod y mewnlifiad yn mynd yn ôl i’r adeg yn dilyn yr Ail Ryfel Byd pan ffodd llawer o Bwyliaid i Gymru. Er hynny, mae miloedd o Bwyliaid wedi dod i Gymru ac i rannau eraill o Brydain ers i’r wlad ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn 2004.

Mae’r rhaglen yn datgelu nifer o wahaniaethau sylfaenol rhwng y don gyntaf o Bwyliaid a ddaeth i Gymru yn y 1940au a’r Pwyliaid ifanc sydd wedi dod yn ddiweddar. Ffoi oedd hanes y genhedlaeth hŷn, ond dod yma o’u gwirfodd gyda’r bwriad o aros am ychydig flynyddoedd yn unig gan amlaf, yw hanes y newydd-ddyfodiaid. Ond un peth sydd gan y ddwy genhedlaeth o Bwyliaid – a’r Cymry hefyd – yn gyffredin yw’r awydd i drosglwyddo eu hiaith a’u diwylliant i’w plant.

Un o’r rhai sy’n cymryd rhan yw’r plismon, Keith Sinclair o Wrecsam sydd wedi dysgu Pwyleg er mwyn cyfathrebu’n well gyda’r Pwyliaid mae’n cwrdd yn Wrecsam. Maent erbyn hyn yn byw mewn cymunedau uniaith Bwylaidd – ‘cymuned o fewn cymuned’ – yn ôl ei ddisgrifiad yn y rhaglen.

Mae’r is-deitlau Pwyleg ar gael ar wasanaeth Teletestun 889 (dewiswch ‘Cymraeg’) a thrwy bwyso’r botwm coch ar Sky a dewis ‘Is-deitlau Cymraeg’.

Mae S4C digidol ar gael y tu allan i Gymru ar Sky 135 ac fe’i darlledir yn gydamserol ar s4c.co.uk. Bydd O Flaen dy Lygaid: Polska Cymru hefyd ar gael i’w gwylio ‘ar alw’ ar s4c.co.uk/gwylio.

O Flaen Dy Lygaid - Polska Cymru

S4C, Nos Fawrth, 5 Mehefin, S4C

Isdeitlau Pwyleg a Saesneg ar gael

Ailddarllediad nos Sadwrn, 9 Mehefin, 9.35pm

s4c.co.uk/ffeithiol. Ar gael ar fand llydan hefyd – s4c.co.uk/gwylio

Cynhyrchiad BBC Cymru i S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?