S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

41 enwebiad Bafta Cymru i S4C

03 Ebrill 2008

Mae Y Pris, cyfres ddrama feiddgar S4C am deulu o gangsters o orllewin Cymru, wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Bafta Cymru 2008, gan gynnwys Awdur Gorau ar Gyfer Sgrin i Tim Price, Actor Gorau i Matthew Gravelle a Chyfarwyddwr Gorau: Drama i Gareth Bryn.

Mae’r enwebiadau hyn ymysg cyfanswm o 41 mae’r sianel wedi’u derbyn am ystod eang o gynyrchiadau.

Mae’r ddrama ddinesig, Caerdydd wedi derbyn tri enwebiad: Awdur Gorau ar Gyfer Sgrin i Ed Talfan, Cynllunio Gorau i Hayden Pearce a Chyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama i Richard Wyn. Mae’r ddrama gyfnod Calon Gaeth, gyda Nia Roberts a Mark Lewis Jones, wedi derbyn enwebiadau yng nghategorïau'r Ffilm Orau a’r Ddrama Orau/Gyfresol Orau ar Gyfer Teledu.

Mae S4C hefyd yn amlwg yng nghategorïau Plant ac Ieuenctid. Mae tri o raglenni S4C wedi cael eu henwebu am y Rhaglen Ieuenctid Orau: cyfres sebon Rownd a Rownd, sioe gylchgrawn Uned 5, a’r rhaglen gerddoriaeth gwlt, Bandit.

Mae’r gyfres wyddoniaeth i blant, Atom, a’r animeiddiad Holi Hana hefyd wedi cael eu henwebu am wobrau. Mae gwefan S4C ar gyfer rhaglenni i blant iau, Planed Plant Bach, wedi cael ei enwebu yng nghategori Cyfryngau Newydd Gorau o Fewn Ffilm Neu Deledu.

Mae Nia Dryhurst wedi cael ei henwebu fel Cyfarwyddwr Gorau: Ffeithiol am ei rhaglen ddogfen, Fel Arall, a oedd yn olrhain profiadau pobl hoyw yng Nghymru. Cafodd Iolo yn Hedfan, a oedd yn dilyn Iolo Williams wrth iddo ddysgu sut i baragleidio yn yr Himalaya, ei enwebu yng nghategori'R Rhaglen Ffeithiol Orau.

Mae Grav - Ray o’r Mynydd, rhaglen deyrnged i’r diweddar Ray Gravell wedi derbyn enwebiad yng nghategori Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau, tra bod Angharad Mair wedi cael ei henwebu fel y Cyflwynydd Gorau Ar y Sgrin am gyflwyno rhifyn arbennig o Wedi 7 ar ddiwrnod marwolaeth Ray Gravell. Cafodd Angladd Ray Gravell hefyd ei enwebu am wobr yng nghategori'r Criw Byw/OB Gorau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae cael 41 o enwebiadau yn seremoni BAFTA Cymru eleni yn gamp arbennig. Rwy’n hynod o falch fod ein rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwneud cystal, a ninnau’n paratoi i ehangu ein gwasanaethau yn y maes.”

Diwedd

Enwebiadau S4C

Y Ffilm Orau

Calon Gaeth - Richard Staniforth (Greenbay)

Y Ddrama Orau/Gyfresol Orau Ar Gyfer Teledu

Calon Gaeth - Richard Staniforth (Greenbay)

Cowbois ac Injans - Eryl Huw Phillips (Opus TF)

Man Del 'Tanc' - Norman Williams (Cwmni Da)

Y Materion Cyfoes Gorau

Y Byd Ar Bedwar ‘Heroin - Gareth & Kirsty’ Geraint Evans (ITV Cymru Wales)

Datganoli - Angharad Anwyl (Ffilmiau’r Bont)

Y Rhaglen Ffeithiol Orau

Iolo Yn Hedfan 'Hwre Yn Yr Himalaya' - Steve Robinson (Indus)

Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau

Grav - Ray o'r Mynydd - Siôn Thomas (BBC Cymru)

Tywysogion 'Llywelyn Fawr' - Angharad Anwyl (Ffilmiau’r Bont)

Yr Adloniant Ysgafn Gorau

Mawr 'Sioe P.C. Leslie Wynne' - Ronw Protheroe/Angharad Garlick (Alfresco, rhan o Boomerang Plus ccc)

Y Rhaglen Gerddorol Orau

Codi Canu - Ronw Protheroe/Matthew Tune/Bethan Anwyl (Alfresco, rhan o Boomerang Plus ccc)

Gala Dennis a Kiri - Hefin Owen (Opus TF)

Y Rhaglen Blant Orau

Atom - Euros Wyn/Neville Hughes (Cwmni Da)

Y Rhaglen Ieuenctid Orau

Bandit 'Sesiynau Santes Dwynwen' - Gruffydd Davies (Boomerang Plus ccc)

Uned 5 - Nest Griffith (Antena)

Rownd a Rownd - Susan Waters/Bedwyr Rees/Robin Evans (Nant)

Yr Animeiddio Gorau

Holi Hana/Hana's Helpline 'Dancing Away' - Calon (Calon)

Y Cyfryngau Newydd Gorau O Fewn Ffilm Neu Deledu

Planed Plant Bach www.s4c.co.uk/planedplantbach -Wil Stephens/Aled Parry (Cube Interactive)

Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama

Caerdydd II - Richard Wyn (Fiction Factory)

Y Camera Gorau: Heblaw Drama

Peirianhygoel - Joni Cray/Aled Jenkins (Fflic, rhan o Boomerang Plus ccc)

Y Sain Gorau

Y Pris - Gareth Meiron/Simon H. Jones/Darren Jones (Fiction Factory)

Y Golygydd Gorau

Rasus Ar Garlam - Gareth Owen/Paul Owen (Apollo, rhan o Boomerang Plus ccc)

Teledu'r Cymry - Jiwlian Tomos (BBC Cymru Wales)

Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau – Dim Camera

Gala Dennis A Kiri - Bernie Davis (Opus TF)

Cân i Gymru 2007 - John Penny (Avanti)

Y Cynllunio Gorau

Caerdydd II - Hayden Pearce (Fiction Factory)

Y Graffeg/Teitlau Gorau

Gwragedd Rygbi - Bait (Fflic, rhan o Boomerang Plus ccc)

Icons Promo S4C - Dylan Griffith (S4C)

Y Coluro Gorau

Calon Gaeth - Teresa Kelly (Greenbay)

Y Criw Byw/OB Gorau

Angladd Ray Gravell - BBC Wales O.B. Team (BBC Cymru)

Yr Awdur Gorau Ar Gyfer y Sgrin

Caerdydd II - Ed Talfan (Fiction Factory)

Y Pris - Tim Price (Fiction Factory)

Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau

Y Pris - John Hardy/Rob Love (Fiction Factory)

Y Cyfarwyddwr Gorau: Drama

Y Pris - Gareth Bryn (Fiction Factory)

Y Cyfarwyddwr Gorau

Bandit 'Sesiynau Santes Dwynwen' - Gruffydd Davies (Boomerang Plus ccc)

Fel Arall - Nia Dryhurst (Greenbay)

Yr Actor Gorau

Cowbois ac Injans - Rhodri Evan (Opus TF)

Y Pris - Matthew Gravelle (Fiction Factory)

Y Cyflwynydd Gorau Ar Y Sgrin

Bandit ‘Sesiynau Santes Dwynwen’ – Huw Stephens (Boomerang Plus ccc)

Wedi 7: Colli Ray Gravell – Angharad Mair (Tinopolis)

Y Newydd Ddyfodiad Gorau

Llangollen 2007 – Elin Manahan Thomas – Cyflwynydd (Opus TF)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?