S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cynnig mwy o nawdd i golff yng Nghymru

21 Mai 2007

  Bydd S4C yn noddi Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru am y pedair blynedd nesaf fel rhan o’i chefnogaeth i golff yng Nghymru.

Mae’r nawdd yn rhan o bartneriaeth ehangach gyda Chwpan Ryder Cymru 2010 Cyf, y cwmni a sefydlwyd i gyflawni ymrwymiadau Cymru fel cartref y Cwpan Ryder Ewropeaidd nesaf.

Cynhelir Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru yng Nghlwb Golff a Gwledig Machynys, Llanelli rhwng 16 ac 19 Awst.

Mae’r nawdd yn dilyn lansiad Cronfa Ysgoloriaeth Golff S4C fis Hydref diwethaf. Gwobrwywyd ysgoloriaethau o £2,500 yr un i ddau golffiwr ifanc, Tara Davies o Gaergybi a Richard Merchant o’r Fenni. Mae’r ysgoloriaeth, sy’n cynnwys dosbarth meistr gydag Ian Woosnam, yn cyd-fynd â’r ymdrechion llwyddiannus i gynyddu niferoedd a safon chwarae'r rheiny sy’n medru’r gêm yng Nghymru wrth i 2010 agosáu.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae S4C yn falch o’r cyfle i gefnogi Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru, cystadleuaeth sy’n hybu enw da Cymru fel gwlad golffio o bwys. Mae S4C yn ymfalchïo yn ei henw da fel cartref chwaraeon Cymru ac wrth i Gymru edrych ymlaen at Gwpan Ryder 2010, mae S4C yn falch iawn o gael cefnogi’r gamp ar bob lefel.”

Meddai Jim Anderson, Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Clwb Golff a Gwledig Machynys, “Cynhelir Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru, digwyddiad o safon fyd eang, mewn lleoliad ffantastig. Bellach, mae noddwr teitl ardderchog i’r achlysur. Mae pawb sydd ynghlwm â’r prosiect yn cydnabod ymrwymiad S4C i chwaraeon o ansawdd uchel yng Nghymru ac mae’n dda o beth i gael y Sianel yn rhan o’r bencampwriaeth hon.”

Ychwanegodd Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine, “Mae Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C yn taro deuddeg. Ry’n ni wrth ein bodd gyda’r bartneriaeth gydag S4C, bydd o fudd i’r digwyddiad a’r byd golff ehangach yng Nghymru wrth i ni symud tuag at 2010 a thu hwnt.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?