S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddangos gemau’r Celtic Crusaders yn fyw

30 Mai 2007

  Mae S4C a’r Celtic Crusaders wedi cyhoeddi y bydd y Sianel yn darlledu nifer o gemau cartref y clwb rygbi’r gynghrair wrth iddynt ymdrechu i ennill dyrchafiad y tymor hwn.

Bydd y cytundeb yn golygu bod y Sianel yn dangos pedair o gemau’r clwb yn Adran 2 cynghrair genedlaethol y Co-operative yn fyw yn unig ar S4C o gartref y Crusaders yng Nghae’r Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr.

Y gêm gyntaf a ddarlledir ar raglen Y Clwb Rygbi 13 yw’r un rhwng y Celtic Crusaders a’r Barrow Raiders ddydd Sadwrn, 9 Mehefin (6.15pm), gyda thair gêm arall ar droed hefyd yn ystod y misoedd nesaf.

Darlledir y gemau ar S4C ac S4C digidol, sianel sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar Freeview, Sky a Virgin Media yng Nghymru ac ar Sky sianel 135 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Y flwyddyn nesaf, bydd gan S4C yr opsiwn o ddarlledu gemau cartref y Celtic Crusaders wrth i’r clwb baratoi ar gyfer cais i ennill statws Super League.

Mae’r cytundeb teledu hefyd yn golygu y bydd S4C yn buddsoddi yn Academi Ieuenctid y Celtic Crusaders, sydd yn cael ei sefydlu fel meithrinfa ar gyfer y genhedlaeth nesaf o sêr rygbi’r cynghrair yng Nghymru.

Meddai Prif Weithredwr y Celtic Crusaders, David Thompson: “Mae’r cytundeb gydag S4C yn enghraifft arall o’r diddordeb cynyddol yn y Celtic Crusaders a rygbi’r cynghrair yng Nghymru.

“Rydym yn glwb sy’n cynrychioli Cymru ac nid rhanbarth a bydd darllediadau S4C yn cyflwyno rygbi’r cynghrair ar hyd a lled y wlad i ddilynwyr chwaraeon nad sydd yn gyfarwydd â’r gêm, gan ennill mwy o ddilynwyr fyth i’r gamp.

“Bellach mae’r Celtic Crusaders ymhlith y clybiau sy’n datblygu cyflymaf yn y Deyrnas Unedig ond mae datblygiad y clwb yn dibynnu cryn dipyn ar feithrin chwaraewyr Cymreig a byddwn yn buddsoddi’n drwm yn yr academi er mwyn sicrhau bod yna lwybr datblygiad ar gael ar gyfer chwaraewyr ifainc talentog.

“Mae cefnogaeth S4C o’r academi ieuenctid yn holl-bwysig wrth ddatblygu sêr Cymreig y dyfodol.”

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys, Chwaraeon S4C: “Mae’r cytundeb darlledu hwn gyda’r Celtic Crusaders yn ychwanegiad arwyddocaol at arlwy rygbi sylweddol S4C.

Mae hyn yn golygu y gallwn ddangos rygbi o safon - boed hynny’n rygbi’r undeb neu rygbi’r cynghrair, gydol y flwyddyn.

“Gall gwylwyr edrych ymlaen at haf cyffrous o rygbi yn dilyn clwb a fydd o bosib yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair cyn bo hir. Mae S4C yn awyddus i fod yn rhan o lwyddiant cynyddol y Crusaders trwy ddarlledu gemau ar gyfer cynulleidfa deledu ehangach.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?