S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llwyddiant dylunio S4C yn lledaenu’r gair am y Gymraeg

13 Mehefin 2007

Mae delwedd brand newydd S4C wedi cipio’r Categori Brand Cymreig yng Ngwobrau Dylunio Dwyieithog 2007, a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Dyma’r ail brif wobr i’r brand - enillodd wobr Undeb Darlledu Ewrop (EBU) fis diwethaf.

Cwblhawyd prosiect ailfrandio’r Sianel, sy’n seiliedig ar y syniad o berthyn ac o atyniad, gan gwmni Proud Creative, o dan arweiniad Cyfarwyddwr Creadigol S4C, Dylan Griffith, a enillodd wobr Dylunydd y Flwyddyn.

Enillodd S4C dair o wobrau eraill, gan atgyfnerthu ei henw da am ragoriaeth greadigol ac am wthio’r ffiniau yn nhermau dylunio dwyieithog, gan helpu i wneud y Gymraeg yn hygyrch i gynulleidfaoedd newydd.

Enillodd y Sianel y Categori Paneli Arddangos gyda phaneli yn hyrwyddo dwy o uchelfannau teledu 2007, sef y ddrama, Caerdydd, a Tywysogion, cyfres hanes am frenhinoedd Cymru.

Enillodd S4C y Categori Hysbysebu gyda’i chynlluniau trawiadol yn tynnu sylw at ei darllediadau o’r Sioe Frenhinol. Enillodd Adroddiad Blynyddol 2006 S4C y Categori Hyrwyddo Corfforaethol. Cwmni dylunio Departures gwblhaodd y gwaith ar y prosiectau hyn ar gyfer S4C.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Rwy’n falch iawn o lwyddiant y Sianel yn y Gwobrau Dylunio Dwyieithog eleni ac rwy’n estyn llongyfarchiadau gwresog i’r timau talentog sydd wedi torri tir newydd gyda’u gwaith creadigol. Hoffwn longyfarch yn arbennig Dylan Griffith am ennill gwobr Dylunydd y Flwyddyn.

“Rhagoriaeth greadigol yw meincnod holl weithgareddau S4C. Mae sicrhau bod ein rhaglenni yn hygyrch i gynulleidfaoedd eang hefyd yn hollbwysig – mae ein llwyddiant yn y Gwobrau yn gydnabyddiaeth ein bod yn cyflawni’r amcanion pwysig hynny.”

Diwedd

Nodiadau i’r Golygydd

• Daeth oddeutu fil o geisiadau i lawyn y Gwobrau Dylunio Dwyieithog eleni.

• Noddir y Gwobrau gan BORDERS, HSBC, Marks & Spencer, a TESCO.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?