S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio apêl 2007

09 Gorffennaf 2007

 Heddiw (Llun, 9 Gorffennaf) cyhoeddodd S4C apêl 2007, Hybu Rygbi, gyda'r bwriad o helpu achosion sy’n agos at galonnau cymunedau rygbi yng Nghymru.

Mae’r apêl, a arweinir gan y sylwebydd a’r cyn gapten rygbi Cymru, Gwyn Jones, ychydig yn wahanol i apêl flynyddol arferol y Sianel, gan na fydd S4C yn codi arian yn uniongyrchol. Yn lle hynny, fe fydd y Sianel yn cynnig cefnogaeth i glybiau, cymdeithasau, unigolion ac elusennau sy’n gysylltiedig â rygbi wrth iddyn nhw fwrw ati i gynnal eu digwyddiadau ac i godi arian.

Fe all y digwyddiadau amrywio o godi arian i helpu clybiau bychain i wella eu cyfleusterau a chefnogi eu timau plant ac ieuenctid i ystod eang o achosion pwysig eraill. Fe fydd apêl S4C yn helpu codi ymwybyddiaeth am y digwyddiadau trwy gyfrwng ei rhaglenni a’i phersonoliaethau.

Mae’n flwyddyn briodol iawn i S4C gefnogi rygbi, gan y bydd y Sianel yn darlledu Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi a Hydref. Ymhlith y darllediadau rygbi eraill ar S4C y mae’r Cynghrair Magners, Cwpan Heineken, Cwpan Konica Minolta, Uwch-gynghrair y Principality, rygbi Ffrainc, rygbi saith-bob-ochr, rygbi’r byd a rygbi’r cynghrair.

Daw’r apêl hon ar ôl i S4C gyflwyno cynllun chwaraeon arall. Ym mis Tachwedd y llynedd, fe lansiodd y sianel Gronfa Ysgoloriaeth Golff gan gynnig ysgoloriaethau i ddau chwaraewr golff addawol ifanc o Gymru yn cynnwys dosbarth meistr gydag Ian Woosnam.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae chwaraeon yn elfen allweddol yn arlwy S4C, a bydd rygbi yn rhan amlwg o’n hamserlen yn yr hydref. Mae apêl S4C eleni yn dangos ymroddiad S4C i chwaraeon yng Nghymru ar lefel gymunedol.”

Meddai Gwyn Jones: “Mae Apêl Hybu Rygbi S4C 2007 yn ffordd wych o helpu clybiau rygbi a chymunedau dros Gymru i godi arian at achosion sy’n bwysig iddyn nhyw. Rydym yn gobeithio y bydd amrywiaeth fawr o brosiectau yn gallu manteisio ar gefnogaeth unigryw Apêl S4C. Ar ôl fy anaf difrifol i, roeddwn yn falch o’r gefnogaeth ges i gan nifer o achosion da, boed yn rhai’n gysylltiedig â rygbi neu beidio. Rwy’n gobeithio y bydd pobl eraill yn gallu cael cymorth trwy Apêl Hybu Rygbi S4C.”

Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu digwyddiad codi arian yn gysylltiedig â rygbi, ac awydd cymorth gan S4C, yna ewch at wefan S4C www.s4c.co.uk/cefnogi am fanylion pellach a ffurflen gais neu cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141.

Nodyn i olygyddion: Mae chwaraeon eraill a welir ar S4C yn cynnwys pêl-droed, rasio pwynt-i-bwynt, rasio harness a ralïo.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?