S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynulleidfa fyd-eang i’r sioe drwy safle we S4C

20 Gorffennaf 2007

Bydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos hon yn cael cynulleidfa fyd-eang drwy we ddarllediadau S4C ar ei safle we - s4c.co.uk/sioe.

Mae bridwyr o wledydd tramor eisoes wedi cysylltu â’r Sianel i fynegi eu gwerthfawrogiad o’r bwriad i gynnig gwasanaeth S4C digidol ar y we o 10 y bore o ddydd Llun tan ddydd Iau'r Sioe. Bydd uchafbwyntiau’r Sioe hefyd i’w gweld ar y we drwy fand llydan hyd at fis ar ôl y sioe i wylwyr yn y DU.

Bydd Janneke Schilthuis, sy’n bridio ceffylau yn yr Iseldiroedd, yn defnyddio’r gwasanaeth i ysgrifennu adroddiad i bapur newydd lleol am fridwyr eraill o’r Iseldiroedd fydd yn cystadlu yn y sioe. “Mae’n rhagorol medru gwylio er ein bod yn methu bod yn y Sioe eleni,” atega Janneke.

Bridwraig merlod Cymreig yng Nghalifornia yw Tammy Burgin, un arall sy’n bwriadu gwylio drwy safle we S4C. “Byddaf wrth fy modd yn gwylio rhaglenni byw S4C o’r sioe,” medd Tammy.

Bydd S4C yn darlledu dros 100 awr o’r sioe eleni ac yn ehangu ei gwasanaeth drwy ddarlledu’n fyw ac yn ddi-dor o ail gylch y sioe, gan roi sylw i gystadlu’r da a gweithgareddau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc.

Bydd gwasanaeth di-dor o’r prif gylch yn rhedeg ar y cyd â darllediadau gydol y dydd S4C o’r sioe o ddydd Llun i ddydd Iau, 23-26 Gorffennaf ar S4C digidol o 10.00 y bore. Ar loeren a Freeview, gall gwylwyr y gwasanaeth digidol ddewis rhwng y gwasanaethau hyn drwy ddefnyddio’r botwm coch a bydd ar gael hefyd i wylwyr Virgin Tv ar S4C2.

Yn ogystal â dod â’r sioe i gynulleidfa fyd-eang bydd gwefan y sianel hefyd yn cynnwys amserlen ddarlledu S4C, gwasanaeth canlyniadau llawn a chyfarchion o’r sioe.

Bydd rhaglenni uchafbwyntiau S4C o’r sioe - Y Sioe/07 - bob nos am 8.25pm a darlledir dwy raglen awr yn edrych yn ôl ar y sioe yr wythnos ganlynol. Bydd Bwletin Ffermio bob dydd hefyd yn ystod wythnos y sioe am 12.20pm ar S4C digidol.

Nia Roberts fydd yn cyflwyno rhaglenni’r dydd, a Dai Jones, Llanilar, fydd yn llywio’r pecynnau uchafbwyntiau gyda’r nos yng nghwmni cyflwynydd Cwpwrdd Dillad Nia Parry ac Aled Samuel o’r gyfres 04 Wal.

Tîm gohebu Nia Roberts yn ystod y dydd fydd Dai Jones, Daloni Metcalfe, Morgan Jones a Mari Grug. Bydd y pedwar allan ar faes y sioe yn dod â’r holl gyffro i’r sgrin.

Meddai Meirion Davies, Pennaeth Cynnwys S4C, “Mae gwasanaeth cynhwysfawr S4C o’r sioe eleni yn tanlinellu ymrwymiad y sianel i raglenni gwledig ac i’r sioe ei hunan. Bydd y sylwebwyr mwyaf gwybodus gennym i roi golwg arbenigol i ddilynwyr y cystadlaethau a digon o adloniant hefyd i’r sawl sydd am fwynhau hwyl y sioe fawr.”

Yn ogystal â darlledu dros 100 awr o raglenni o’r sioe, bydd gweithgareddau lu ym mhafiliwn S4C ar faes y sioe ac mae croeso i bawb alw heibio i ymuno yn yr hwyl.

Bydd rhai o brif gogyddion Cymru yn paratoi prydiau blasus yn y pafiliwn gyda’r bwriad o roi syniadau newydd ynglŷn â choginio. Yn eu plith fydd Dudley Newberry a’r ddwy ddaeth yn gyntaf ac yn ail yng nghystadleuaeth Chez Dudley y llynedd – Jan Wilson Jones ac Anna Brown – ynghyd ag un o feirniaid y gystadleuaeth honno, Nerys Howell.

Ymhlith y sêr fydd yn ymddangos yn y pafiliwn fydd y gantores, Einir Dafydd, enillydd WawFfactor 2006 a chyd-enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac o dîm cyflwyno Planed Plant, Gareth Delve, Lowri Williams ac Alex Jones. I’r plant hefyd bydd cyfle bob dydd i ddawnsio gyda chymeriadau’r Sianel, megis Sam Tân, Sali Mali a’r Meees.

Yn ystod wythnos y sioe bydd cyfle hefyd i fwynhau perlau o’r gyfres Cefn Gwlad a rhaglenni gwledig eraill ar S4C digidol.

Y Sioe 07

Dydd Llun i ddydd Iau, 23-26 Gorffennaf

Yn fyw o 10.00am ar S4C digidol

Rhaglenni uchafbwyntiau am 8.25pm ar S4C gydag isdeitlau Saesneg ar gael.

Gwasanaeth di-dor o’r prif gylch a’r ail gylch drwy’r gwasanaeth botwm coch i wylwyr lloeren.

Ar gael ar S4C2 i wylwyr Freeview (botwm 86) a Virgin TV (botwm 195).

Gweddarlledu byw yn fyd-eang ar – s4c.co.uk.sioe

Cynhyrchiad Grŵp Boomerang ac ITV1Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?