S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tri threlar i’w hennill ar Ffermio

24 Gorffennaf 2007

Mae tri threlar i’w hennill yng nghystadleuaeth Ffermio 2007 a lansiwyd heddiw (dydd Mawrth 24 Gorffennaf) yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Bydd y gyfres wledig Ffermio, a gynhyrchir ar gyfer S4C gan Telesgôp, yn cynnig y tair gwobr trwy garedigrwydd Ifor Williams Trailers Cyf o Gorwen. Y brif wobr fydd trelar gwartheg TA5; yr ail fydd trelar CT136TA i anifeiliaid llai, a’r drydedd fydd trelar P5.

Mae Ffermio yn ôl fis Awst eleni gydag ymweliadau â sioeau rhanbarthol a lleol ledled y wlad, cyn i’r gyfres ailddechrau yr hydref.

Rhwng mis Medi a mis Tachwedd bydd criw Ffermio yn gofyn cwestiwn gwahanol i’r gwylwyr bob yn ail wythnos. Bydd llythyren gyntaf pob ateb, o’u hail-drefnu, yn sillafu gair pum llythyren. Rhaid gwylio’r gyfres er mwyn cael cyfle i ennill.

Dewisir enw ar hap o’r holl atebion cywir ac, er mwyn ennill, bydd yn rhaid ateb un cwestiwn arall dros y ffôn. Fe gyflwynir y gwobrau yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd a gynhelir ar 26 a 27 Tachwedd.

“Mae’r gwobrau yn rhai gwerthfawr iawn. Yr ydym yn falch eleni eto o allu cynnig gwobrau cystal. Mae Cwmni Ifor Williams wedi bod yn hael iawn ac yn amlwg eu cefnogaeth i’r diwydiant amaethyddol,” medd Dyfrig Davies, uwch gynhyrchydd Ffermio.

“Mae Ifor Williams Trailers Cyf yn falch, unwaith eto, i fod yn gysylltiedig â rhaglen Ffermio drwy roi gwobrau trelars ar gyfer eu cystadleuaeth flynyddol,” meddai Siân Williams, Cyd-lynydd Marchnata’r cwmni.

Eleni bydd pedair rhaglen Ffermio arbennig yn ymweld â sioeau rhanbarthol a lleol. Gan gychwyn nos Lun, 13 Awst am 8.25pm, ac yna’n wythnosol bydd criw Ffermio yn dod â blas Sioe Gogledd Cymru o Gaernarfon, Sioe Dyffryn Teifi o Gastellnewydd Emlyn, Sioe Llanfyllin a Sioe Pontarddulais. Ond rhaid aros tan fis Medi ar gyfer y gystadleuaeth.

Bydd Ffermio’n dychwelyd i S4C ar nos Lun ddiwedd Medi.

Darlledir Bwletin Ffermio ar S4C digidol drwy gydol y flwyddyn am 12.20pm bob dydd Mawrth a dydd Gwener

Ffermio o’r Sioeau am bedair wythnos o nos Lun, 13 Awst, 8.25pm

s4c.co.uk/ffermio, www.iwt.co.uk

Cynhyrchiad Telesgôp ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?