S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bws Planed Plant Bach S4C i deithio i ogledd ddwyrain Cymru

07 Ionawr 2008

Bydd y cyflwynwyr plant Gareth Delve a Rachael Solomon yn gadael cynhesrwydd y stiwdio am wythnos arbennig o raglenni wrth iddynt gamu ar ddec bws Planed Plant Bach i ymweld ag ysgolion cynradd yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Ar 21 Ionawr, bydd y tîm o wasanaeth Planed Plant Bach S4C, yn dechrau’r daith yn Ysgol Gynradd Bro Cernyw, Abergele gyda Gareth a Rachael yn gwahodd disgyblion ar y bws ar gyfer gemau a gwahanol weithgareddau.

Hefyd ar y bws, fydd yna gyfle arbennig i’r plant gwrdd â Cyw, pyped arbennig Planed Plant Bach. Bydd yr eitemau a ffilmiwyd dros yr wythnos yn cael eu darlledu ar S4C yn ystod wythnos hanner tymor, 11-15 Chwefror.

Bydd Rachael, sy’n dod yn wreiddiol o ardal Llanelwy ond sydd erbyn hyn yn byw yn Llandaf, Caerdydd, yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau wrth iddi ymweld â’i hen ysgol gynradd, Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl yn ystod yr wythnos.

Meddai Rachael, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymweld â phawb yn fy hen ysgol gynradd gan fod gen i atgofion melys iawn o’r ysgol. Fe fydd hi’n brofiad gwych i allu ffilmio eitemau yn yr ardal.”

Ychwanega Helen Davies, cynhyrchydd Planed Plant Bach, “Mae hyn yn gyfle ardderchog i ni fynd â’r cyflwynwyr allan ar leoliad i gwrdd â’r gwylwyr ifanc wyneb yn wyneb.”

Yn ystod yr wythnos fydd bws Planed Plant Bach yn ymweld ag:

Ysgol Gynradd Bro Cernyw, Abergele Llun, 21 Ionawr

Ysgol Gynradd Pen Barras, Rhuthun Mawrth, 22 Ionawr

Ysgol Gynradd Bod Alaw, Bae Colwyn Mercher, 23 Ionawr

Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl Iau, 24 Ionawr

Ysgol Gynradd Twm o’r Nant, Dinbych Gwener, 25 Ionawr

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?