S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Deg enwebiad Celtaidd i raglenni S4C

16 Ionawr 2008

Mae amrywiaeth eang o raglenni S4C wedi ennill deg enwebiad am wobrau yng Ngŵyl Cyfryngau Geltaidd 2008, sydd i’w chynnal yn Galway, Iwerddon fis Ebrill.

Enwebwyd yr ail gyfres o’r ddrama ddinesig Caerdydd yn y categori Drama, tra bod Calon Gaeth, ffilm gyfnod gyda Nia Roberts a Mark Lewis Jones, wedi’i henwebu yn y Categori Drama Hir.

Mae'r gyfres Holi Hana eisoes wedi’i gwerthu i ragor na dwsin o wledydd ledled y byd. Nawr mae’r gyfres am yr hwyaden hoffus sy’n rhedeg llinell gymorth ar gyfer anifeiliaid bach wedi derbyn enwebiad yn y categori Animeiddio.

Derbyniodd S4C ddau enwebiad yn y categori Materion Cyfoes, ar gyfer Datganoli, cyfres dair rhan yn nodi deng mlwyddiant datganoli yng Nghymru, ac ar gyfer rhifyn o Y Byd ar Bedwar am fywydau cyn filwyr digartref.

Yn y categori Dogfen Ffeithiol, enwebwyd O’r Galon: Martin Thomas, sy’n bortread o frwydr un dyn i goncro atal dweud difrifol.

Rhaglen ddogfen am chwaraewraig rygbi cadair olwyn, Merch y Gadair Ddur, sydd wedi ennill enwebiad yn y categori Portread Chwaraeon. Mae’r ail gyfres o Rygbi 100%, y rhaglen i blant am sgiliau rygbi a gyflwynir gan y mewnwr rhyngwladol Dwayne Peel a Sarra Elgan yn cael enwebiad yn y Categori Addysg.

Mae’r rhaglen ddogfen rymus O Flaen Dy Lygaid: Gadael Gofal, sy’n dilyn profiadau pobl ifanc sydd newydd adael gofal yr awdurdodau lleol, yn derbyn enwebiad yn y categori Pobl Ifanc. Yn y categori Plant, enwebwyd y gyfres goginio anarchaidd, Stwffio.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn ddigwyddiad o bwys sy’n denu cynyrchiadau o bob cwr o’r DU a thu hwnt. Mae ennill deg enwebiad yn gamp arwyddocaol a hoffai S4C longyfarch y timau talentog yn y sector cynhyrchu annibynnol, ITV Cymru a BBC Cymru a fu’n ymwneud â chynhyrchu’r rhaglenni hyn.”

diwedd

RHESTR O RAGLENNI S4C A ENWEBWYD

Drama Hir

Calon Gaeth     

Green Bay Media

Cyfres Ddrama

Caerdydd – Cyfres 2    

Fiction Factoy

Animeiddio

Holi Hana

Calon

Materion Cyfoes

Datganoli     

Ffilmiau’r Bont

Y Byd ar Bedwar – Milwr di-gartre’

ITV Cymru

Dogfen Ffeithiol

O’r Galon: Martin Thomas

Fflic

Addysg

Rygbi 100% - Cyfres 2

Cwmni Da

Portread Chwaraeon

Merch y Gadair Ddur

Ffilmiau’r Nant

Plant

Stwffio – Cyfres 2

Fflic

Pobl Ifanc

O Flaen Dy Lygaid: Gadael Gofal

BBC Cymru

Cynhelir yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd rhwng 16 a 18 Ebrill.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?