S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i bobl Caerffili leisio barn am S4C

13 Chwefror 2008

Bydd cyfle i wylwyr yn ardal Caerffili drafod gwasanaethau a rhaglenni S4C mewn Noson Gwylwyr yng nghwmni uwch swyddogion S4C i’w chynnal yn Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Stryd Parc y Felin, Caerffili am 7.00pm, nos Iau, 21 Chwefror.

Bydd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, y corff sy’n goruchwylio’r Sianel, yn ymuno â Iona Jones, Prif Weithredwr S4C a’r Cyfarwyddwr Rhaglenni, Rhian Gibson i drafod rhaglenni S4C a’r byd darlledu yn gyffredinol.

Mae’r Noson Gwylwyr yng Nghaerffili yn un o gyfres o nosweithiau gwylwyr a gynhelir ledled Cymru gan S4C yn 2008. Gyda’r newid i ddigidol ar ein trothwy a thechnolegau newydd yn chwyldroi’r ffordd mae pobl yn gwylio eu hoff raglenni, bydd digon i’w drafod.

Meddai John Walter Jones, Cadeirydd S4C, “Rydyn yn edrych ymlaen at gael cwrdd â’n gwylwyr yn ardal Caerffili wyneb-yn-wyneb. Mae’n gyfle i gael trafodaeth agored a gonest am bob agwedd o’n gwasanaeth rhaglenni a’r cynlluniau cyffrous ar gyfer y Sianel yn y blynyddoedd nesaf.”

Mae S4C wedi dechrau 2008 gydag amrywiaeth eang o raglenni sydd wedi denu nifer uchel o wylwyr. Y ffigyrau ar gyfartaledd yn ystod yr oriau brig ym mis Ionawr yw’r uchaf ers 12 mis.

Mae’r sioe siarad newydd Sioe PC Leslie Wynne, yng nghwmni’r plismon hwyliog o Ogledd Cymru wedi cyflwyno arddull gomedi newydd ar S4C, tra bod Teulu ar nosweithiau Sul yn enghraifft bellach o ymroddiad S4C i gynhyrchu drama o ansawdd uchel sydd ag apêl eang. Mae’r gyfres sebon Pobol y Cwm hefyd wedi denu cynulleidfaoedd da ar ddechrau 2008, diolch i nifer o straeon pwerus a gafaelgar.

Mae S4C wrthi’n darlledu ail gyfres o Codi Canu i gyd-fynd ag arlwy estynedig o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae’r gyfres, sy’n dilyn ymdrechion pum côr rygbi i ennill y fraint o ganu’r Anthem yn Stadiwm y Mileniwm, wedi taro nodyn gyda’r gwylwyr. Mae’r sioe siarad Jonathan hefyd yn profi’n boblogaidd gyda’r rhifyn a oedd yn croesawu’r seren X Factor Rhydian Roberts yn denu cynulleidfaoedd ardderchog.

Mae’r cyfresi dogfen O’r Galon a Wynebau Newydd hefyd wedi denu cynulleidfaoedd da.

Darperir lluniaeth ysgafn yn ystod y Noson Gwylwyr a bydd gwasanaeth cyfieithu llawn ar gael. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad genedlaethol).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?