S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio blwyddyn o raglenni Gwyrdd

19 Chwefror 2008

Mae S4C heddiw (Dydd Mawrth, 19 Chwefror) yn lansio pecyn o gyfresi Gwyrdd ar gyfer 2008 sy’n cynnwys rhaglenni newydd am fyd natur, y dirwedd a’r amgylchedd.

Wrth gyhoeddi’r pecyn, dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae materion amgylcheddol yn amlwg ar yr agenda rhyngwladol, gyda chyflwr y blaned, newidiadau i’r hinsawdd a chynaladwyaeth yn bynciau blaenllaw. Yn ystod y flwyddyn, rydym am gyflwyno pynciau amgylcheddol mewn ffordd ddifyr a defnyddiol.”

Mae’r cyfan yn dechrau ar 10 Mawrth gyda Natur Cymru, cyfres ddogfen uchelgeisiol wedi’i saethu ar fformat Diffiniad Uchel. Iolo Williams sy’n cyflwyno’r gyfres, sy’n bwrw golwg ar fywyd gwyllt Cymru gyda golygfeydd trawiadol drwy bedwar tymor.

Ym mis Mehefin, Bethan Gwanas a Russell Owen Jones yw cyflwynwyr Byw yn yr Ardd, cyfres newydd sy’n edrych ar arddio organig a chynaliadwy. A bydd y bardd, cyflwynydd a chynhyrchydd Ifor ap Glyn yn teithio Cymru benbaladr i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn Popeth yn Wyrdd.

Cerys Matthews, Mererid Hopwood ac Aled Samuel sydd ymhlith y wynebau cyfarwydd sy’n arwain gwylwyr ar daith ar hyd afonydd pwysica’r byd, o’r Amazon i’r Mississippi, yn Yr Afon. Bydd y gyfres hefyd yn bwrw golwg ar fywydau’r bobl hynny sydd yn byw ar lannau’r afonydd.

Hefyd yn yr hydref, bydd pedwar disgybl o ddwy ysgol yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon yn bwrw ati i greu chwyldro gwyrdd yn eu milltir sgwâr yn Cwm Glo Cwm Gwyrdd.

Yn ystod 2008, bydd Newyddion yn cynnwys adroddiadau rheolaidd gan Ohebydd Materion Gwledig, Amgylchedd a Chynaliadwyedd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd. Bydd Pawb a’i Farn yn darlledu rhifyn arbennig am yr amgylchedd a bydd BBC Cymru yn cynhyrchu ffilm ddogfen o bwys am ddyfodol y blaned. Bydd cyfresi craidd S4C, gan gynnwys Wedi 7, Ffermio a Hacio, a’r gwasanaeth plant hefyd yn ymdrin â phynciau Gwyrdd.

Lansiwyd gwefan gynhwysfawr - s4c.co.uk/gwyrdd - gyda gwybodaeth am y rhaglenni. Mae S4C hefyd wedi cyhoeddi llyfryn yn llawn cyngor defnyddiol, Llyfr Bach Gwyrdd. Yn unol â’r themâu gwyrdd, bydd S4C yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n helpu’r amgylchedd fel canolbwynt Apêl 2008. Ewch i s4c.co.uk/cefnogi am fwy o fanylion.

Mae S4C hefyd wedi mabwysiadu sawl mesur gwyrdd i geisio lleihau effaith y darlledwr ei hun ar yr amgylchedd.

Gosodwyd paneli pŵer haul ar do pencadlys S4C yn Llanisien, Caerdydd i helpu lleihau’r defnydd o ynni, tra bod cynllun gostwng treth yn annog aelodau staff i brynu beics er mwyn seiclo i’r gwaith.

Mae teclyn arbennig yn yr ystafelloedd cyfarfod yn diffodd y goleuadau pan fo’r ystafelloedd yn gwacáu a, ble bynnag sy’n bosib, defnyddir goleuadau effeithiolrwydd uchel a phapur a ailgylchwyd. Mae gwastraff S4C yn cael ei ailgylchu.

Mewn partneriaeth gyda Chwmni CarbonNeutral, mae S4C hefyd wedi ennill statws carbon niwtral trwy gefnogi gwahanol brosiectau sy’n helpu’r amgylchedd.

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

Mae S4C ar gael y tu allan i Gymru ar Sky 134.

Mae rhaglenni S4C yn cael eu darlledu ar wefan y Sianel - s4c.co.uk - ac maent ar gael i’w gwylio ar alw, ar-lein hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad teledu gwreiddiol.

Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni S4C – chwiliwch am symbol y dylluan.

Blwyddyn o Raglenni Gwyrdd.

Natur Cymru, 10 Mawrth 2008

Mae’r gyfres chwe’ phennod hon, a gynhyrchir gan Gynyrchiadau Aden, yn bwrw golwg ar natur Cymru yn ei holl ogoniant. Bydd Iolo Williams yn ein harwain ar siwrnai ar hyd gwlyptiroedd, arfordiroedd, mynyddoedd a choetiroedd Cymru. Mae’r ffilmio, sydd o’r ansawdd uchaf, yn cynnig golwg o fywyd gwyllt na welir yn aml iawn. Bydd rhaglen ddogfen ar ddiwedd y gyfres, Natur Cymru/Tu ôl i’r Camera yn dangos sut y ffilmiwyd y gyfres.

Byw yn yr Ardd, Mehefin 2008

Bethan Gwanas a Russell Owen Jones sy’n cyflwyno’r gyfres 12 pennod hon sy’n cynnig cyngor ar sut i fwynhau helpu’r amgylchedd yn yr ardd . Fe fydd pwyslais ar hwyl a hamdden, yn ogystal â chyfle i fusnesa yng ngerddi pobl eraill. Cwmni Da yw’r cwmni cynhyrchu.

Popeth yn Wyrdd, Mehefin 2008

Mae Ifor ap Glyn yn ôl ar y lôn er mwyn ein hannog i droi’r byd yn wyrddach. Yn y gyfres bedair rhan a gynhyrchir gan Cwmni Da, mae Ifor am ddefnyddio’i ffraethineb a’i hiwmor i dorri trwy’r jargon carbon.

Yr Afon, Medi 2008

Yn y gyfres chwe rhan hon, a gynhyrchir gan Green Bay Media, bydd cyfle i wylwyr ddilyn rhai o afonydd pwysicaf y byd, o’r Amazon i’r Mississippi. Mae Cerys Matthews ac Aled Sam ymhlith y cyflwynwyr.

Cwm Glo Cwm Gwyrdd, Hydref 2008

Yn y gyfres fyrlymus, hwyliog hon, a gynhyrchir gan Green Bay Media, bydd pedwar disgybl o ddwy ysgol yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon yn bwrw ati i greu chwyldro gwyrdd: yn eu cartrefi, eu strydoedd a’u cymoedd.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?