S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu Falstaff Ddydd Gwener y Groglith

20 Mawrth 2008

Bydd cynhyrchiad nodedig cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o Falstaff, sydd â Bryn Terfel yn y brif ran, yn cael ei ddarlledu ar S4C Ddydd Gwener y Groglith, 21 Mawrth am 7.45pm. Mae’r darllediad yn rhan o gytundeb tair blynedd i ddangos pedwar o gynyrchiadau’r cwmni opera ar y Sianel.

Dyma unig rôl operatig Bryn Terfel yn 2008. Ffilmiwyd y cynhyrchiad, a gyfarwyddwyd gan Peter Stein ac a lwyfannwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ddechrau’r mis, gan Opus TF ar gyfer S4C.

Mae Opus TF hefyd wedi ffilmio rhaglen ddogfen arbennig, Falstaff: Tu Ôl i’r Llenni, a ddarlledir ar S4C nos Iau, 20 Mawrth am 9.00pm. Bydd isdeitlau Saesneg a Chymraeg ar gael ar y rhaglen ddogfen a’r opera, a berfformir yn Eidaleg.

Addasiad o’r ddrama The Merry Wives of Windsor gan Shakespeare yw Falstaff yn bennaf ac mae’n un o ddau gomedi yn unig o blith y 26 opera a gyfansoddwyd gan Verdi. Roedd Verdi yn ei 70au hwyr pan gyfansoddodd yr opera, sy’n cynnig her go fawr i’r cantorion.

Meddai Peter Stein, “Mae’r gerddoriaeth yn cael ei hystyried ymysg y gymhlethaf a gyfansoddwyd erioed. Mae iddi strwythur modern sydd yn gofyn llawer gan y cantorion. Rhaid i bethau gael eu datrys o fewn eiliadau gan nad oes cyfle i adeiladu emosiwn yn nhreigl arias neu ddeuawdau hirion.”

Mae Falstaff yn cael ei ystyried yn un o’r rhannau anoddaf i fas bariton ond roedd Bryn, sydd wedi chwarae’r un rôl yn y Met, Efrog Newydd a’r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, wrth ei fodd gyda maint y dasg o’i flaen.

Meddai Bryn, “Falstaff yw un o’r campweithiau mwyaf erioed. Mae o’n dipyn o gymeriad - yn un egnïol, tew a hardd. Mae Falstaff yn ymfalchïo yn ei gadernid corfforol, ond ei wendid yw ei falchder - ac mae’n syrthio i’r abwyd dro ar ôl tro.”

Fe ymunodd Bryn Terfel â’r cyfarwyddwr enwog, Peter Stein, yr arweinydd cerdd, Carlo Rizzi a Cherddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru, a’r tenor Rhys Meirion, sydd hefyd o Ogledd Cymru, ar gyfer y cynhyrchiad hwn sy’n wledd i’r llygaid.

Fe ganodd Bryn ran y bariton, y tirfeddiannwr ifanc Ford, mewn cynhyrchiad blaenorol gan Opera Cenedlaethol Cymru o Falstaff o dan Stein. Ac wrth i Bryn Terfel a Peter Stein gydweithio unwaith eto, mae’r rhaglen tu ôl i’r llenni yn dangos y berthynas greadigol gref rhwng y ddau ddyn.

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

• Mae S4C ar gael y tu allan i Gymru ar Sky 134. Gellir gwylio Falstaff a Falstaff: Tu Ôl i’r Llenni ar-lein ar s4c.co.uk/gwylio am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad teledu cyntaf.

• Cyhoeddir enwau’r tri opera arall maes o law.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?