S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llun yn Llŷn i wraig fferm!

21 Chwefror 2008

Bydd rhaglen gylchgrawn cefn gwlad S4C, Ffermio, yn rhoi sylw yr wythnos nesaf (Llun, Chwefror 25, 8.25pm) i artist o Ben Llŷn sy’n cael ei hysbrydoli gan yr ardal wledig a’r byd amaeth sy’n ei hamgychynu.

Mae Carys Bryn yn byw ar fferm Porth Ysgaden yn Nhudweiliog, Llŷn gyda’i gwr a’i dau o blant sy’n eu harddegau, Cian a Beca, ac mae’n weithgar iawn ym mywyd y fferm o ddydd i ddydd.

Ond mae Carys hefyd yn gweithio fel Pennaeth Celf yn ei hen ysgol, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ac yn artist prysur wrth ei gwaith mewn stiwdio arbennig, hen ysgubor garreg ar dir y fferm.

Pan aeth Daloni Metcalfe, un o gyflwynwyr Ffermio i gyfarfod ag hi ar y fferm defaid a bîff fe sylwodd pa mor anhygoel o brysur yw ei bywyd.

Meddai Daloni, “Rhaid i’r rhan fwyaf o artistiaid fynd allan i chwilio am ysbrydoliaeth, ond mae Carys yn cael ei holl ddeunydd o’r man ble mae’n byw a gweithio. Mae’n artist medrus iawn sy’n defnyddio pob math o ddeunyddiau diddorol, fel cymysgu tywod a graen i’w phaent. Dyma bortread o berson difyr a ddylai apelio at gynulleidfa teledu eang iawn.”

Mae Carys, sydd â gradd mewn Gwneuthuriad Print a Chelfyddyd Gain, yn dweud ei bod yn paentio am y mwynhad.

Er hynny, mae wedi derbyn nifer fawr o gomisiynau, yn arbennig am ei phortreadau o hyrddod Cymreig, gwartheg duon Cymreig a chobiau Cymreig. Mae’n defnyddio siapiau nodedig, lliwiau a gwead er mwyn dehongli cefn gwlad.

Mae ei gwaith wedi derbyn cryn ganmoliaeth gan y beirniaid ac wedi’u harddangos mewn nifer o orielau, gan gynnwys Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Cilgwri (The Wirral) a Betws y Coed.

Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys comisiynau i ddarlunio cyfres llyfr plant Tecwyn y Tractor, a nifer o lyfrau Cymraeg eraill.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?