S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwsin lwcus yn perfformio gyda Bryn Terfel ar lwyfan ac ar S4C

07 Mawrth 2008

Mae 12 disgybl lwcus o ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn perfformio gyda Bryn Terfel yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Falstaff.

Bydd yr opera yn cael ei darlledu ar S4C, ynghyd â rhaglen ddogfen y tu cefn i’r llenni am y cynhyrchiad.

Mae’r disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 o Ysgol Melin Gruffydd, Yr Eglwysnewydd, yn cymryd rhan yng nghynhyrchiad Peter Stein o’r opera gan Verdi, a agorodd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Ddydd Llun.

Bu camerâu S4C yno i recordio’r perfformiadau o Falstaff i’w darlledu yn ddiweddarach yn y mis ar Ddydd Gwener y Groglith, 21 Mawrth, am 7.45 yr hwyr.

Bydd y Sianel hefyd yn darlledu dogfen tu cefn i’r llenni, Falstaff: Tu ôl i’r Llenni ar nos Iau, 20 Mawrth, am 9.00 yr hwyr, a fydd yn bwrw golwg ar wahanol agweddau ar y cynhyrchiad.

Cynhyrchir y rhaglenni ar gyfer S4C gan y cwmni cynhyrchu Opus TF, o Gaerdydd.

Isaac Marks a Matthew Delf yw dau o’r disgyblion Ysgol Melin Gruffydd sy’n chwarae rhan amlwg yn y cynhyrchiad. Mae’r ddau yn eu tro yn chwarae rhan gwas bach Falstaff.

Mae’r 10 arall – Caitlin Jones, Joseff Reed, Arial Desscan, Mollie Bevan Davies, Elin Brokenshaw, Gwern Ifans, Hawys Waddington, Cai Hayes, Gwenno Jones ac Elis Jones – yn chwarae tylwyth teg yn yr opera.

Meddai Dirprwy Bennaeth Ysgol Melin Gruffydd, Sandra Semmens, “Mae pawb yn Melin Gruffydd yn falch iawn o’r disgyblion, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y perfformiadau a’r rhaglenni teledu sydd yn dilyn. Ers iddynt gael eu dewis, mae bywyd wedi bod yn brysur i’r plant ond maen nhw’n sylweddoli ei bod hi’n fraint enfawr, ac yn brofiad na wnânt byth ei anghofio. Mae’r ysgol gyfan yn gyffro gwyllt oherwydd y cyfle i berfformio gyda Bryn Terfel.”

Ychwanegodd Gareth Williams, Uwch Gynhyrchydd gydag Opus TF, “Bydd y rhaglen ddogfen yn datgelu sut mae cwmni opera o safon ryngwladol yn paratoi ar gyfer cynhyrchiad o bwys. Mae’r berthynas greadigol rhwng eicon opera mwyaf Cymru, Bryn Terfel, ac un o gyfarwyddwyr llwyfan mwyaf y byd, Peter Stein, yn drydanol. Ond yng nghanol y berw creadigol hwn, mae plant Melin Gruffydd yn edrych yn gwbl gyfforddus a phroffesiynol, ac yn hawlio eu lle ar y llwyfan.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?