S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn buddsoddi mewn Inuk Networks

05 Mehefin 2008

  Mae cwmni Inuk Networks yn cyhoeddi heddiw ei fod wedi cwblhau ail rownd ariannu gwerth £9.5 miliwn wedi’i harwain gan S4C a’r cwmni cyfalaf menter Wesley Clover. Bydd tîm gweithredol Inuk yn defnyddio’r buddsoddiad hwn i ddatblygu’r llwyfan chwarae-triphlyg Freewire ymhellach yn y DU, yn ogystal ag ehangu i Iwerddon a Gogledd America.

Daw’r buddsoddiad gan S4C trwy gyfrwng ei is-gwmni masnachol, S4C Digital Media Cyf (“S4CDM”) gan ddefnyddio cyllid masnachol yn unig.

Bydd Iona Jones, Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd S4CDM, a David Sanders, un o gyfarwyddwyr S4CDM, ill dau’n ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr Inuk a gadeirir gan Simon Gibson OBE.

“Mae’n amser cyffrous iawn i Inuk, gyda’r gwasanaeth Freewire eisoes ar gael mewn rhagor na 100,000 o ystafelloedd myfyrwyr yn y DU ac yn parhau i dyfu’n gyflym,” meddai Marcus Liassides, Prif Swyddog Gweithredol Inuk Networks. “Mae buddsoddiad S4C a Wesley Clover yn galluogi Inuk i ddatblygu ei llwyfan technoleg ymhellach, gan barhau i ailddiffinio’r ffordd y mae pobl yn gwylio teledu.”

Ychwanegodd Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: “Mae’r buddsoddiad hwn yn tynnu ynghyd uchelgeisiau masnachol S4C a’n dealltwriaeth fel darlledwr o bwysigrwydd dulliau newydd o ddarparu cynnwys ar gyfer defnyddwyr. Rydym yn credu bod Freewire yn fenter ddeniadol, gyda’r potensial i ddatblygu’n llwyfan teledu digidol prif ffrwd.”

Ynglŷn ag S4CDM

Mae S4CDM yn is-gwmni masnachol i S4C. Yn sgîl Deddf Darlledu 1996 a Deddf Cyfathrebu 2003, rhoddwyd rhai pwerau i S4C ymwneud â gweithgareddau masnachol. Er mwyn galluogi S4C i fuddsoddi yn Inuk Networks, roedd yn ofynnol ar S4C i dderbyn Gorchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Daeth y gorchymyn i rym ar 2 Ebrill 2008.

Mae S4C yn un o bum darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae S4C Digidol ar gael ar Sky 104 yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 y tu allan i Gymru. Mae hefyd ar gael yng Nghymru ar Freeview 4 a Virgin TV 194. Yn 2007, sicrhawyd bod S4C ar gael ar wasanaeth Freewire rhwydwaith Inuk. Mae S4C hefyd ar gael ar y we, www.s4c.co.uk

Ynglŷn â Wesley Clover

Mae Wesley Clover yn gwmni daliant preifat a chronfa fenter sy’n arbenigo mewn sefydlu cwmnïau technoleg. Hyd yma mae’r gronfa wedi creu rhagor na 60 cwmni ym marchnadoedd telegyfathrebu, cyfrifiaduro a darlledu. Mae gan Wesley Clover bortffolio eiddo a hamdden sylweddol, sy’n cynnwys canolfan y Celtic Manor Resort, cartref Cwpan Ryder 2010. Mae Cadeirydd y Cwmni, Syr Terry Matthews, yn un o fentrwyr technoleg mwyaf blaenllaw’r DU.

Ynglŷn ag Inuk Networks

Mae Inuk Networks yn gyflenwr chwarae-triphlyg sydd wedi gwneud y mwyaf o’r twf cyflym mewn technolegau band llydan trwy ddatblygu llwyfan ar gyfer dosbarthu gwasanaeth teledu o ansawdd darlledu uchel a thechnoleg teleffoni dosbarth cludiant dros rwydweithiau caeedig IP.

Freewire (http://www.freewireTV.com) yw llwyfan brandiedig y cwmni ar gyfer darparu gwasanaethau fideo, llais a data i ddefnyddwyr. Mae’n canolbwyntio’n uniongyrchol yn y lle cyntaf ar y farchnad ar gyfer myfyrwyr. Gall llwyfan Freewire cwmni Inuk gael ei gynllunio’n benodol a’i ddarparu fel ateb cyflawn i gwsmeriaid, gan gynnig yr hyblygrwydd mwyaf posibl i gyflenwyr band llydan a gweithredwyr rhwydwaith yn y modd y maent yn darparu eu gwasanaethau adloniant teledu, llais a chydgyfeiriol.

Ewch i www.inuknetworks.com am ragor o wybodaeth am Inuk Networks.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?