S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr y Gogledd yn codi'r to!

16 Mawrth 2008

Mae côr o gefnogwyr rygbi o’r gogledd wedi ennill prif wobr cystadleuaeth Codi Canu S4C. Yn dilyn perfformiadau gwefreiddiol o flaen torf enfawr, enillodd Côr y Gogledd y fraint o ganu anthemau cenedlaethol Cymru a Ffrainc cyn gêm y Gamp Lawn ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe gurodd y côr 80 aelod - sydd â Robin McBryde yn gapten arno ac sydd wedi’i arwain gan Mari Pritchard a Geraint Roberts - gorau o ranbarthau rygbi'r Dreigiau, Gleision, Gweilch a Sgarlets i gipio’r wobr.

Beirniad Codi Canu, yr arweinydd Owain Arwel Hughes, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis a’r soprano arobryn Rebecca Evans ddewisodd y côr buddugol ar ôl i’r pump berfformio detholiad o emynau ac anthemau rygbi cyn y gêm.

Yn dilyn y perfformiadau a chanu’r anthemau, fe ymunodd y pum côr - 400 aelod i gyd - â’r dorf i helpu canu dros Gymru.

Roedd Côr y Gogledd yn newydd i’r ail gyfres hon o Codi Canu. Fe gymerodd y pedwar côr arall ran yn y gyfres gyntaf, gyda chôr y Dreigiau yn fuddugol yn 2007.

“Bwriad y gyfres oedd ail gynnau’r brwdfrydedd am ganu cynulleidfaol ar y terasau rygbi,” meddai Ronw Protheroe, Uwch Gynhyrchydd Codi Canu. “Roedd yr awyrgylch ddoe cyn ac yn ystod y gêm yn drydanol. Roedd y canu corawl yn rhan bwysig o hyn. Llongyfarchiadau i’r corau i gyd am helpu ysbrydoli’r tîm i fuddugoliaeth hanesyddol.”

Diwedd

Nodiadau Golygyddol

- Mae S4C ar gael y tu allan i Gymru ar Sky 134.

- Dyma’r ail gyfres o Codi Canu sy’n cael ei chynhyrchu ar gyfer S4C gan Alfresco. Côr y Dreigiau enillodd y gyfres gyntaf a’r fraint o gael canu’r anthemau cenedlaethol cyn gêm Cymru v Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2007.

- Mae’r gyfres gyntaf o Codi Canu wedi’i henwebu am wobr teledu Rose D’Or.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?