S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rownd wyth olaf Cwpan Cymru – yn fyw ar S4C

24 Chwefror 2010

   Bydd rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru rhwng y deiliaid Bangor a Llanelli yn cael ei darlledu’n fyw ac yn egscliwsif ar S4C ddydd Sadwrn, 27 Chwefror.

Tîm Sgorio, gan gynnwys cyn-chwaraewr Cymru Malcolm Allen a Nic Parry, fydd yn Farrar Road i gyflwyno’r cyfan o 5.00pm (cic gyntaf am 5.15pm). Bydd uchafbwyntiau o gemau Cwpan eraill rownd yr wyth olaf, yn ogystal â chyhoeddi gemau'r rownd gynderfynol i’w weld yn ystod y rhaglen.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer y gêm a bydd modd ei wylio yn fyw ar-lein ar s4c.co.uk. Bydd sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael i wylwyr Sky drwy’r gwasanaeth botwm coch.

Mae gan y ddau dîm yma hanes llewyrchus iawn yn y cwpan, gan gynnwys Rownd Terfynol cofiadwy 2008 pan wnaeth Bangor guro Llanelli 4 - 2 ar ôl amser ychwanegol.

Meddai Golygydd Cynnwys S4C, Geraint Rowlands, “Dyma’r tro cyntaf inni ddarlledu gêm o Chwarteri Cwpan Cymru yn fyw ar S4C ac rydym yn hapus i ychwanegu hwn at ein portffolio pêl droed ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’r gamp yng Nghymru. Mae gemau rhwng y ddwy ochr yma wedi bod yn hanesyddol yn y gorffennol ac rwy’n siŵr fydd hon hefyd yn glasur.”

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?