S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Canlyniad pleidlais Elfed

09 Mawrth 2009

Mae un o emynau mwyaf cyfarwydd Cymru wedi dod i'r brig mewn pleidlais ar-lein i ddarganfod hoff emyn y genedl gan Elfed, y bardd, pregethwr ac eisteddfodwr o Sir Gaerfyrddin.

Daeth Arglwydd Iesu, Dysg im Gerdded yn gyntaf allan o 12 emyn oedd ar y rhestr fer. Cafodd yr emyn buddugol, yn ogystal â ffefrynnau eraill, ei berfformio mewn cyngerdd Dechrau Canu Dechrau Canmol arbennig, a gafodd ei ffilmio yn Venue Cymru, Llandudno.

Yr arweinydd enwog, ac un o gyflwynwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol, Alwyn Humphreys, oedd yn arwain y canu yn y dathliad o waith Elfed, gyda Cherddorfa Siambr Cymru yn cyfeilio.

Roedd Elfed yn fardd toreithiog ac yn ffigwr cenedlaethol uchel ei barch. Ond fel un o emynwyr mwyaf Cymru mae'n cael ei gofio fwyaf, a chyhoeddwyd 44 o'i emynau yng nghyfrol Caneuon Ffydd.

Roedd Cofia'n Gwlad, Benllywydd Tirion, Yr Arglwydd a feddwl amdanaf a Rho im yr Hedd ymhlith yr emynau eraill ar y rhestr fer.

Darlledwyd y rhaglen ar S4C nos Sul 8 Mawrth, ac mae'n bosibl gwylio'r rhaglen ar wasanaeth gwylio ar-lein S4C, sef s4c.co.uk/clic.

Gorffen

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?