S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu Cyngerdd Haiti

11 Chwefror 2010

       Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau cynhwysfawr cyngerdd arbennig o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd i godi arian ar gyfer apêl Haiti yn dilyn daeargryn mis diwethaf.

Angharad Mair fydd cyflwynydd y gyngerdd, sydd wedi cael ei threfnu gan Cymorth Cristnogol, ac yn cael ei darlledu nos Sul 21 Chwefror am 20:30.

Ymhlith y sêr cerddorol fydd yn swyno'r gynulleidfa, mae Rhydian Roberts, Dennis O’Neill a Wynne Evans. Bydd Elin Fflur, Mal Pope a Gwydion Rhys Griffiths, enillydd gwobr Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol, hefyd yn perfformio yn ystod y noson. Bydd Ruth Jones, seren ac awdur Ar y Tracs a Gavin & Stacey, yn gwneud cyflwyniad hefyd.

Yn ystod darllediad y gyngerdd, bydd manylion am sut i gyfrannu at apêl Haiti yn cael eu dangos.

Nes ymlaen yr un noson, bydd cyfle i wylwyr weld ailddarllediad o raglen arbennig Y Byd ar Bedwar yn adrodd o Haiti am 22:20.

Am fanylion pellach ar sut i wneud rhodd nawr, ewch at: www.cymorthcristnogol.org.uk

 

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?