S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwahoddiad gan S4C i ddysgwyr Aberaeron

09 Ionawr 2009

 Mae S4C yn gwahodd dysgwyr yr iaith Gymraeg yn Aberaeron a’r cyffiniau i helpu lansio gwasanaeth rhyngweithiol newydd i alluogi dysgwyr ar bob lefel, punai’n newydd ddyfodiaid i’r iaith neu’n siaradwyr rhugl, i fwynhau rhaglenni mwyaf poblogaidd y sianel.

Bydd y gwasanaeth newydd – sydd ar gael drwy wasgu botwm ‘dysgwyr’ neu ‘learners’ ar www.s4c.co.uk – yn canolbwyntio ar brif gyfresi S4C, gan gychwyn gyda’r ddrama nos Sul, Teulu, y sioe gwis, Cwis Meddiant a Y Dref Gymreig, sy’n bwrw golwg ar rai o adeiladau ein trefi mwyaf adnabyddus.

Dangosir pennod gyntaf cyfres newydd Teulu, a ffilmiwyd ar leoliad yn Aberaeron, yng ngwesty’r Feathers yn Aberaeron nos Iau, 15 Ionawr am 7.00pm. Ar ôl y dangosiad, bydd cyfle i glywed mwy am y gwasanaeth newydd i ddysgwyr ac i gwrdd â dau o sêr Teulu, Catrin Morgan a Rhys ap Hywel.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cyflwyniadau i raglenni a phersonoliaethau S4C, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol am ddiwylliant a thraddodiadau Cymraeg. Cynigir gweithgareddau i ddysgwyr ar bedair lefel wahanol: Cychwynwyr, Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Ceir dewis hefyd o batrymau iaith de a gogledd Cymru.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch dros ben o fedru cynnig yr adnodd cynhwysfawr yma, sy’n rhan o ymrwymiad S4C i hyrwyddo mynediad i’r Sianel i’r holl wylwyr, yn arbennig dysgwyr, sy’n rhan allweddol bwysig o’r gynulleidfa.”

Mae mynediad i’r dangosiad o Teulu yn Aberaeron yn rhad ac am ddim. I sicrhau lle, ffoniwch Cwmni Acen ar 029 20 300800 neu e-bostiwch jenny.allen@acen.co.uk

Nodiadau i’r golygydd:

• Datblygwyd gwasanaeth ar-lein S4C i ddysgwyr gan y cwmni addysgiadol a chyhoeddi Cymreig, Cwmni Acen, mewn cydweithrediad â Cube Interactive.

• Bydd Teulu yn cychwyn ar S4C nos Sul, 18 Ionawr am 9.00pm.

• Darlledir Cwis Meddiant ar S4C bob nos Fercher am 8.25pm.

• Teledir Y Dref Gymreig ar S4C bob nos Fercher am 9.00pm.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?